Bydd Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn cynnal dathliad Dydd Gŵyl Dewi ar 2 Mawrth 2019. Bydd y digwyddiad yn dathlu cynnyrch Cymreig o ansawdd arbennig sydd ar gael ar y farchnad.

Cynhelir y farchnad cynnyrch lleol ar y dydd Sadwrn cyntaf a'r trydydd dydd Sadwrn bob mis ar Rodfa’r Gogledd yn Aberystwyth rhwng 10yb a 2yp. Bydd y digwyddiad yn dathlu cig o safon uchel, llysiau organig, caws a bara ffres, gemwaith prydferth ac ategolion gwlân alpaca cynnes.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Economi ac Adfywio. Meddai, “Rydym yn hynod lwcus i gael cynnyrch o ansawdd uchel o'r fath ar ein stepen drws yma yn Aberystwyth. Mae'r farchnad yn ddathliad rheolaidd o'n lleoliad ac o fod yn Gymry. Dyma'r lle perffaith i gefnogi ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr lleol.”

Mae'r farchnad 18 oed yn rhoi'r cyfle i gwsmeriaid gael perthynas â chynhyrchwyr lleol, i drafod nwyddau a chynhwysion yn fanwl a deall o ble y daw eu cynnyrch.

Bydd y delynores leol Heledd Ifan Davies, yn perfformio ystod o ganeuon clasurol a chyfoes o 12yp; gan ddarparu cefndir atmosfferig i'r profiad a dathliad siopa.

25/02/2019