Mae trigolion cyntaf cynllun gofal ychwanegol newydd Aberystwyth wedi siarad am y modd y mae wedi trawsnewid eu bywydau, o gwrdd â ffrindiau newydd i ddarparu llwyfan ar gyfer dechrau newydd mewn bywyd.

Agorodd Maes y Môr, a ddarparwyd gan Dai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, ym mis Hydref ym Mhen-yr-Angor, ac mae’n edrych dros y dref a’r harbwr. Ond i lawer o’i breswylwyr newydd, mae wedi cynnig llawer mwy na golygfeydd ysblennydd o’r môr yn unig.

Gwnaeth Peter a Doris Wintle gais i fyw ym Maes y Môr gan nad oedd eu hen gartref ym Mhenparcau bellach yn addas ar gyfer eu hanghenion. Mae eu cartref newydd yn darparu mynediad hawdd at amrywiaeth o gyfleusterau, gofal a chymorth 24 awr ar y safle yn ogystal â Swyddog Lles, gan sicrhau bod preswylwyr yn byw bywyd annibynnol, iach a llawn boddhad.

“Mae symud i Faes y Môr wedi nodi tro newydd gwych yn ein bywydau,” meddai Peter. “Rydyn ni wedi cwrdd â phobl newydd ac mae gennym ni fwy o ffrindiau nawr nag erioed o’r blaen. Roedden ni’n teimlo’n gyffrous iawn i symud yma, rydyn ni’n gallu ymlacio mwy yma ac rydyn ni’n mwynhau byw wrth y môr eto. Mae’r staff cymorth a staff y bwyty yn anhygoel – rydyn ni’n teimlo’n gartrefol iawn yma ac ni allem fod gyda phobl mwy caredig na’r rhai sydd yma ym Maes y Môr."

Mae Brodie Gadsby, sydd wedi gadael gofal, wedi cael dechrau newydd mewn bywyd gan sicrhau swydd newydd yn ogystal â chartref pan symudodd i Faes y Môr. Derbyniodd Brodie gymorth gan staff gofal a chymorth Castell Ventures i ymgeisio am rôl wirfoddoli yn Hwb Penparcau, lle mae ganddo bellach swydd â thâl.

Dywedodd Brodie: “Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n symud o gwmpas llawer ar ôl i mi adael gofal maeth – rydw i wedi bod yn unig iawn yn aml ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn. Doeddwn i ddim yn gallu aros i symud i Faes y Môr. Rwy’n ei fwynhau’n fawr, rwy’n hapus iawn gyda’r ffrindiau newydd yr wyf wedi cwrdd â nhw yma – maen nhw fel teulu i mi."

Mae unigrwydd ac ynysigrwydd hefyd yn bethau sy’n perthyn i’r gorffennol i’r preswylwyr newydd Lynette Evans, Justin a Mavis Jean Aldred a Jean Aldridge.

Dywedodd Jean: “Cyn symud yma, nid oeddwn yn gallu cael bath na chawod gan nad oedd gennym y cyfleusterau. Rwy’n fyddar iawn a bu’n rhaid inni gael gwared ar ein car, ac roedd hynny’n ynysig iawn. Cyn gynted ag y cyrhaeddais Faes y Môr roeddwn i’n teimlo’n ddiogel, mae bywyd yn llawer haws nawr nag o’r blaen. Rydyn ni wedi llwyddo i oresgyn llawer o’r anawsterau a oedd gennym. Mae bywyd yma yn ddymunol iawn. Mae’n braf gweld wynebau hapus yn y bore, ac mae cael rhywun yno i’ch helpu i godi’n ddiogel yn rhyddhad mawr.”

Mae Sara Norris, Swyddog Lles Maes y Môr, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn eu bywydau, gan sicrhau bod cyfleoedd i bawb ddod at ei gilydd a chwrdd â ffrindiau newydd.

Mae’r gweithgareddau a drefnir ar gyfer preswylwyr yn cynnwys bingo, nosweithiau ffilmiau a nosweithiau cwis; mae’r Swyddog Lles hefyd wedi dechrau clwb cerdded sydd wedi bod yn boblogaidd gyda phreswylwyr sy’n berchen ar gŵn.

“Mae’r trigolion iau wedi bod yn mabwysiadu cŵn ar gyfer y sesiynau cerdded, er mawr lawenydd i’w perchnogion,” meddai Sara, o Castell Ventures. “Ac mae’r nosweithiau cwis a’r teithiau cerdded wedi croesi ffiniau cenedlaethau ac wedi darparu cyfleoedd gwych i gwrdd â ffrindiau newydd.”

Croesawodd Maes y Môr ei breswylwyr cyntaf ddiwedd mis Hydref 2021 ac mae’n darparu llety gofal ychwanegol y mae mawr ei angen yn Aberystwyth.

Dywedodd Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gwasanaethau Porth Gofal a Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar ran Cyngor Sir Ceredigion:

“Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gweithio mewn partneriaeth â Thai Wales & West sydd wedi arwain at agor yr ail gyfleuster gofal ychwanegol yng Ngheredigion. Mae Maes y Môr yn darparu cyfleoedd llety i ystod amrywiol o ddinasyddion Ceredigion sydd angen cymorth i gynnal annibyniaeth a hybu ansawdd eu bywydau. Mae’n galonogol clywed y straeon cadarnhaol gan drigolion sydd bellach yn byw yn y cynllun ac yn mwynhau bod yn rhan o’r gymuned newydd hon yn y Sir.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.wwha.co.uk/cy/property-extra-care/maes-y-mor-aberystwyth/

14/03/2022