Mae nifer yr achosion o COVID-19 yng Ngheredigion yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus ac rydym wedi gweld y raddfa uchaf yn y sir ers dechrau’r pandemig. Mae nifer yr achosion yng Ngheredigion bellach yn 1,163.8 fesul 100,000 o'r boblogaeth gyda 846 o achosion yn ystod y 7 diwrnod diwethaf. Mae Ceredigion wedi gweld cynnydd mwyaf ledled Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Os ydych wedi cael cadarnhad eich bod yn bositif gyda COVID-19, sicrhewch eich bod yn parhau i hunanynysu am 10 diwrnod a'ch bod yn ymateb i alwad neu destun gan y Swyddogion Olrhain Cyswllt. Drwy ymateb a nodi eich cysylltiadau, byddwch yn helpu i atal trosglwyddo COVID-19 yn ein cymunedau. Hefyd, manteisiwch ar y cyfle i gael eich brechu – nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechlyn cyntaf, ail neu’r brechlyn atgyfnerthu.

O ganlyniad i’r cynnydd yn yr achosion o Omicron ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau ar waith i leihau'r trosglwyddo.

Ar 26 Rhagfyr am 6am, daeth lefel 2 wedi'i haddasu i rym, gyda'r cyfyngiadau a'r canllawiau canlynol:

  • Clybiau nos yn cau
  • Cadw pellter o 2 fetr wrth bobl eraill, gan gynnwys yn y gweithle
  • Gwisgo mwgwd mewn tafarndai a bwytai os nad ydych yn bwyta neu’n yfed
  • Pob digwyddiad chwaraeon, yn broffesiynol ac yn gymunedol, yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig
  • Hyd at 6 mewn grŵp mewn llefydd lletygarwch, theatrau, sinemâu
  • Mae angen i safleoedd trwyddedig gymryd manylion cyswllt, archebu o flaen llaw a rhoi mesurau priodol ar waith
  • Ceisio cyfyngu ar eich ymwneud ag eraill dan do
  • Dim hawl cynnal digwyddiadau mawr (dan do neu yn yr awyr agored)
  • 30 o bobl ar y mwyaf mewn digwyddiadau dan do a drefnir ymlaen llaw a 50 o bobl ar y mwyaf yn yr awyr agored
  • Dim terfyn ar nifer y bobl mewn priodasau ac angladdau. Bydd rhaid i’r safleoedd gadw trefn a rhoi mesurau diogelwch COVID-19 ar waith. Cynghorir gwesteion i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd.

Dyma grynodeb o'r newidiadau i'r rheolau hunanynysu a ddaeth i rym ar 22 Rhagfyr:

  • Yn achos pob un dros ddeunaw oed sydd wedi'i frechu'n llawn (ar ôl derbyn dau ddos llawn o frechlyn cymeradwy neu un dos o frechlyn Janssen) a phlant 5 i 17 oed, gofynnir iddynt gymryd profion llif unffordd bob dydd am 7 diwrnod os ydynt yn gyswllt i rywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19.
  • Nid oes angen iddynt hunanynysu oni bai eu bod yn cael prawf llif unffordd positif neu’n datblygu symptomau. Os yw hynny’n digwydd, dylent archebu prawf PCR cyn gynted â phosib.
  • Mae unrhyw un sy'n bodloni'r meini prawf uchod ac sy'n ynysu ar hyn o bryd am ei fod yn gyswllt, yn gallu rhoi'r gorau i hunanynysu ar 22 Rhagfyr a defnyddio profion llif unffordd dyddiol yn lle hynny. Mae hyn yn cynnwys rhywun sy'n ynysu am ei fod yn gyswllt i achos sicr neu dybiedig o Omicron.
  • Mae’r sefyllfa'n aros yr un peth ar gyfer oedolion sydd heb eu brechu ‒ mae'n rhaid iddynt barhau i hunanynysu am ddeg diwrnod. Mae’r sefyllfa ar gyfer plant o dan bump oed hefyd yn aros yr un peth ac nid oes rhaid iddynt hunanynysu na chael prawf fel cyswllt.
  • Mae'r newidiadau hyn yn symleiddio’r ffordd bresennol o hunanynysu. Gall unrhyw un sydd wedi'i frechu'n llawn neu rhwng 5 a 17 oed gael profion cyswllt dyddiol yn hytrach na hunanynysu, p'un a ydynt o’r un aelwyd neu'n gyswllt agos. Mae hyn hefyd yn disodli’r rheoliadau blaenorol ar gyfer cysylltiadau i achosion o Omicron.
  • Caiff Ap Covid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei ddiweddaru maes o law a darperir neges ychwanegol.

Gydag achosion yn cynyddu yn gyflym yn y sir, rydym yn eich annog i ddilyn y canllawiau. Os oes gennych symptomau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws dylech hunanynysu yn syth a threfnu prawf PCR – https://www.gov.uk/get-coronavirus-test.

Mae’r prif symptomau yn cynnwys:

  • tymheredd uchel
  • peswch newydd, parhaus
  • colled neu newid i synnwyr blas neu arogl

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o symptomau cynnar eraill, tebyg i gur pen, blinder a phoenau cyffredinol sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r ffliw.  

Camau gofalus

Cofiwch y gall pob un ohonom gymryd camau a all wneud gwahaniaeth i ddiogelu ein gilydd, ein ffrindiau, ein teulu a’n cymunedau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cael eich pigiad atgyfnerthu
  • Hunanynysu a threfnu prawf PCR os oes gennych symptomau
  • Cymryd prawf llif unffordd hyd yn oes os nad oes symptomau gennych, cyn ichi fynd allan i rywle – boed hynny i barti Nos Galan, siopa yn y sêls, ymweld â ffrindiau neu deulu, mynd i fannau prysur neu cyn teithio
  • Sicrhau bod llefydd dan do yn cael eu hawyru’n ddigonol
  • Cadw pellter cymdeithasol lle bo hynny’n bosibl
  • Golchi eich dwylo
  • Gwisgo mwgwd. Os ydych mewn tafarn neu fwyty, gwisgwch eich mwgwd os nad ydych yn bwyta neu’n yfed

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn gwahodd pawb dros 18 oed, ynghyd â'r rhai sydd mewn grŵp blaenoriaeth uwch, i alw heibio i Ganolfan Brechu Torfol i gael eu brechu. https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/

I ddiogelu ein gwasanaethau rheng flaen ac i sicrhau fod cyn lleied o amharu â phosib, mae angen i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb a chwarae ein rhan i gadw Ceredigion yn ddiogel.

29/12/2021