Y mis Ionawr yma, mae Amgueddfa Ceredigion yn falch o arddangos gwaith celf gan y peintiwr portreadau Seren Morgan Jones, sy’n wreiddiol o Aberystwyth.

Mae Jones yn cynrychioli’r drydedd genhedlaeth o artistiaid benywaidd yn ei theulu, gan ddilyn yn ôl traed ei nain, Margaret Jones. Ym mis Ionawr 2019 cynhelir arddangosfa ôl-syllol o’r gwaith gan Margaret Jones sydd yng nghasgliad Amgueddfa Ceredigion, i ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed ym mis Rhagfyr 2018.

Cyfuniad o ddau wahanol ddarn o waith Seren Morgan Jones yw Mae’n Hen Bryd; ‘Drwy Lygaid Hanes’, sy’n dogfennu menywod Cymreig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a ‘Portreadu Protestwyr’, casgliad o luniau etholfreintwyr yng Nghymru ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Mae’r arlunydd yn dwyn ysbrydoliaeth o estheteg a chyfeiriadau hanesyddol, ond mae’n mynd y tu hwnt i lunio portreadau traddodiadol drwy ail-ddiffinio ac ail-ddychmygu’r naratif hanesyddol, gan greu lle ar gyfer menywod o fewn hanes gweledol Cymru. Daw’r lluniau hyn hyd yn oed yn fwy pwysig ac ystyrlon wrth eu harddangos yng nghyd-destun Amgueddfa Ceredigion; mae yma gasgliad helaeth o eitemau y mae menywod wedi’u rhoi inni sy’n cynrychioli diwylliant a hanes y sir, ond yn aml iawn nid ydym yn gwybod am hanes bywydau’r menywod hynny. Manteisiodd yr artist ar gasgliad yr Amgueddfa o baentiadau o fenywod mewn gwisgoedd Cymreig traddodiadol; nid ydym fel arfer yn sôn am y menywod dan sylw yn ein harddangosiadau, ond yn yr arddangosfa hon mae Seren Morgan Jones yn adrodd eu hanesion ac yn rhoi bywyd o’r newydd iddynt.

Mae’r portreadau’n rhai grymus ac uniongyrchol; mae llygaid y menywod yn sythu’n syth atoch, sy’n ennyn sylw’r gynulleidfa’n syth ac yn creu cysylltiad rhyngddynt â’r lluniau, yn herio ac yn cwestiynu. Portreadau dychmygol yw’r rhain sy’n seiliedig ar hanesion a ffotograffau o fenywod, yn hytrach na phobl go iawn o’r oesoedd a fu. Wrth greu’r ffug-bortreadau hyn mewn arddull sy’n dwyn meistri celf Gymreig i’r cof, mae Seren yn ei gosod ei hun a’r menywod yn ei phortreadau ynghanol y naratif diwylliannol hwn.

Wrth sôn am ei gwaith, mae hi’n dweud: “Rwy’n creu delwedd wahanol o fenywod Cymru, i herio’r hyn a welwn ni mewn siopau anrhegion ac ati. Gellid dadlau mai dyma’r unig le lle gallwn weld menywod Cymreig o’r gorffennol ymhobman. Mae’n bwysig bod y gynulleidfa’n medru uniaethu â’r menywod hun, ac felly mae’n rhaid iddi ymddangos bod y menywod hyn wedi byw bywydau go iawn.”

Ymunwch â Amgueddfa Ceredigion pan fydd yr arddangosfa yn cael ei agor yn swyddogol ar 27 Ionawr am 2yp. Yn arwain y digwyddiad fydd yr artist adnabyddus, William Wilkins.

Cynhelir yr arddangosfa hon mewn partneriaeth ag oriel TEN, Caerdydd ac mi fydd yn rhedeg o 20 Ionawr hyd 16 Ebrill 2018 yn Amgueddfa Ceredigion. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Curadur Cynorthwyol, Alice Briggs, alice.briggs@ceredigion.gov.uk neu 01970 633086.

Llun: Sioned yn nyddu.

17/01/2018