Mae Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, ar drothwy’r drws ac mae’r paratoadau ar eu hanterth yng Ngheredigion.

Mae'r llythyrau, gyda'r codau mynediad unigryw, wedi cael eu postio ac mae’r ymatebion wedi dechrau dod i law yn barod.

Bydd Cyfrifiad llwyddiannus yn helpu i roi'r darlun gorau o anghenion pawb sy'n byw yng Nghymru a Lloegr. Dim ond 10 munud fesul unigolyn mae'n ei gymryd i gwblhau'r Cyfrifiad ac os na allwch chi fynd ar-lein, mae ffurflenni papur ar gael i'r rhai sydd eu hangen. Nawr yw'r amser i chi adael eich marc ar hanes.

Gan weithredu yn unol â chanllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar COVID-19, bydd swyddogion maes yn dechrau ar eu gwaith i gysylltu â'r rhai nad ydynt wedi ymateb. Byddant yn cynnig help a chyngor i'r rhai sydd eu hangen. Byddant hefyd yn atgoffa pobl fod yn rhaid iddynt gwblhau'r Cyfrifiad yn ôl y gyfraith.

Myfyrwyr: llenwch y Cyfrifiad o’ch cyfeiriad prifysgol

P’un a ydych yn aros mewn neuaddau neu yn eich hen ystafell wely adref ar hyn o bryd, dylech lenwi’r Cyfrifiad o gyfeiriad eich prifysgol.

Mae’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn llywio penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd myfyrwyr, er enghraifft cysylltiadau bysus a lonydd beiciau ar gampysau prifysgol, swyddi a hyfforddiant.

Os ydych adref dros dro ar hyn o bryd oherwydd pandemig COVID-19, dylech gael eich cynnwys ar ffurflen y Cyfrifiad yn eich cyfeiriad prifysgol a’ch cyfeiriad cartref. Bydd angen i chi gael eich cod mynediad unigryw ar gyfer eich cyfeiriad yn ystod y tymor (eich cyfeiriad prifysgol) trwy fynd i wefan y Cyfrifiad: Cymorth i Fyfyrwyr.

Os na fyddwch yn dychwelyd i’ch cyfeiriad prifysgol o gwbl, dim ond eich cyfeiriad cartref parhaol y bydd angen i chi gael eich cynnwys arno yn y Cyfrifiad.

Cyfrifiad Cynhwysol

Y cyfrifiad hwn yw'r un mwyaf cynhwysol eto. Gall pawb nodi eu hunaniaeth fel y dymunant gan ddefnyddio'r cyfleuster chwilio-wrth-deipio ar-lein a'r opsiynau i ysgrifennu ateb ar yr holiadur papur os oes angen.

Mae'r Cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy'n dymuno cwblhau'r Cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar-lein ac ar bapur. Mae botymau "Cymraeg" ac "English" er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar-lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un ffurflen.

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cymorth i lenwi’r Cyfrifiad

Gellir cwblhau ffurflen y Cyfrifiad ar-lein trwy ddefnyddio’r cod mynediad unigryw yn eich Pecyn Cyfrifiad.

Os bydd arnoch angen cymorth, gallwch gysylltu â Chanolfan Gyswllt Gyffredinol y Cyfrifiad ar 0800 169 2021. Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Gymorth Leol y Cyfrifiad yn Llyfrgell Tref Aberystwyth trwy ffonio 01545 572377 neu anfon neges e-bost i: library@ceredigion.gov.uk.

Yn ogystal, bydd Rheolwr Ymgysylltu’r Cyfrifiad ar gael i gynnig cymorth. Dewch o hyd i ragor o fanylion am y cymorth sydd ar gael ar wefan y Cyngor: Ceredigion a'r Cyfrifiad

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyfrifiad a thudalennau We Cyngor Sir Ceredigion.

15/03/2021