Mae unigolion a chymunedau yn gweithio gyda’i gilydd ar draws Ceredigion er mwyn helpu’r bobl mwyaf anghenus. Fodd bynnag, yn yr un modd ag unrhyw argyfwng arall, mae’r coronafeirws yn cynnig cyfle i unigolion diegwyddor gymryd mantais o unigolion agored i niwed. Os ydych chi neu eich grŵp cymunedol yn ymwybodol bod unrhyw un mewn perygl o gael ei dwyllo gan sgamiau, yna mae angen eich help arnom i fynd i’r afael â nhw.

• Sgamiau drwy e-bost neu dros y ffôn: Efallai y bydd sgamwyr yn cysylltu â chi gan honni eu bod yn cysylltu ar ran sefydliad; gall hyn amrywio o’ch Awdurdod Lleol yn cynnig taliadau ar gyfer prydau ysgol am ddim, i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) yn cynnig cymorthdaliadau tâl ac enillion. Byddwch yn wyliadwrus - os oes gennych unrhyw amheuon, neu os nad ydych wedi cael unrhyw gyswllt blaenorol â’r awdurdod, dylech ystyried cysylltu â’r corff perthnasol gan ddefnyddio’r manylion ar ei wefan neu ei ohebiaeth (peidiwch â defnyddio’r rhifau cyswllt ar unrhyw e-bost a all fod yn sgam nac unrhyw ddolenni yr ydych yn eu derbyn). Adroddwch unrhyw bryderon wrth Action Fraud drwy ffonio 0300 123 2040 neu ewch i www.actionfraud.police.uk.

• Troseddwyr yn cymryd mantais o unigolion bregus – er bod y rhan fwyaf o bobl yn dymuno amddiffyn a helpu eraill, efallai bod lleiafrif yn dymuno cynorthwyo unigolion bregus er eu lles eu hunain. Peidiwch byth â rhoi tâl na darparu eich manylion ariannol i bobl neu sefydliadau sy’n ddieithr i chi, a chadwch lygad ar eich cymdogion, yn enwedig y rheini nad oes ganddyn nhw bobl eraill i ddibynnu arnyn nhw. Peidiwch â thalu gydag arian ymlaen llaw, peidiwch â rhoi eich cerdyn banc i unrhyw un arall, a pheidiwch â gadael ‘gwirfoddolwyr’ nad ydych chi’n eu hadnabod i mewn i’ch tŷ. Os ydych yn amau bod rhywun yn cael ei gam-drin, cysylltwch â Heddlu Dyfed Powys. Os gellir adrodd amdano ar-lein, a fyddech chi cystal â gwneud hynny: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy/cysylltwch-a-ni/riportiwch-ar-lein/, fel arall ffoniwch 101.

• Nwyddau ffug ac anniogel: Gan fod y galw yn cynyddu’n sylweddol ar gyfer ystod o nwyddau, cafwyd adroddiadau ynglŷn â chitiau ffug ar gyfer profi am COVID-19, hylif glanhau dwylo sy’n cynnwys cemegion sydd wedi’u gwahardd, a masgiau wyneb amddiffynnol sy’n is na’r safon. Gellir adrodd am unrhyw bryderon wrth y Gwasanaeth Safonau Masnach perthnasol drwy ffonio Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 05 (llinell Gymraeg) neu 03454 04 05 06 (llinell Saesneg).

• Mae benthycwyr arian didrwydded yn cymryd mantais o bobl sy’n wynebu anawsterau ariannol: Os ydych yn ymwybodol o fenthycwyr arian anghyfreithlon a allai fod yn targedu pobl sy’n wynebu anawsterau ariannol, dywedwch wrth Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru drwy ffonio 0300 123 3311.

Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.nationaltradingstandards.uk/news/beware-of-covid19-scams/ (wefan Saesneg yn unig).

Mae pobl yn cael eu hannog i amddiffyn eu cymdogion trwy ymuno â Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau, sy'n darparu hyfforddiant ar-lein am ddim i rymuso pobl i sefyll yn erbyn sgamiau. I gwblhau'r modiwlau ar-lein, ewch i www.friendsagainstscams.org.uk.

I gael cyngor a gwybodaeth ar sut i wirio a allai rhywbeth fod yn sgam, ewch i: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/consumer/scams/check-if-something-might-be-a-scam/.

26/03/2020