Tuag at ddiwedd mis Medi, fe wnaeth pob Llysgennad Ifanc Ceredigion fynychu sesiynau hyfforddiant un diwrnod ar draws Ceredigion mewn tair gwahanol ganolfan hamdden i ddysgu sgiliau arweinyddiaeth newydd a sut i baratoi a darparu cyfleoedd gweithgaredd corfforol diogel o fewn eu hysgolion.

Hefyd, cymerodd y Llysgenhadon Ifanc ran mewn Hyfforddiant Cynhwysiad Anabledd Mini i annog pawb yn eu hysgol i gymryd rhan yn eu gweithgareddau cynhwysol.

Dywedodd Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol, “Mae gan bob Llysgennad Ifanc rôl bwysig i ysbrydoli eu cyfoedion a chyfrannu tuag at ysgol fwy actif - mae’n ffantastig i weld bod y Llysgenhadon Ifanc yn barod yn gwneud gwahaniaeth yn eu hysgolion a’n mwynhau bod yn arweinwyr ifanc.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, “Mae’n gadarnhaol i glywed bod y Llysgenhadon Ifanc Efydd yn darparu mentrau newydd o fewn eu hysgolion. Mae’n wych i weld bod y plant wedi cael y cyfle yma i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth ym mhellach ac wedi cael ei ddangos sut i fod yn ystyriol o sicrhau bod y gweithgareddau maent yn darparu yn gynhwysol i bob plentyn, beth bynnag yw eu gallu. Rwy’n siŵr y bydd y pethau mae’r plant wedi dysgu yn ystod y sesiynau a’r profiadau maent wedi cael yn ystod y Rhaglen Arweinyddiaeth Llysgenhadon Ifanc yn sgiliau bywyd gwerthfawr y bydden nhw ac eraill yn elwa o am flynyddoedd i ddod.”

Cafodd dros 100 o Lysgenhadon Ifanc Efydd eu cydnabod ar draws ysgolion cynradd Ceredigion i fod yn fodelau rôl o fewn eu hysgolion ac i annog a darparu cyfleoedd gweithgaredd corfforol i’w cyfoedion. Mae’r llysgenhadon ifanc wedi bod yn brysur yn barod o fewn eu hysgolion yn sefydlu mentrau newydd ac yn ysbrydoli disgyblion i fod yn fwy actif.

 

02/10/2018