Mae busnesau y sir bellach yn elwa yn dilyn lansiad llyfryn newydd “Cymraeg yn y Gweithle” gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.

Mae’r llyfryn newydd dwyieithog yn portreadu busnesau lleol sy’n cynnig gwasanaethau Cymraeg, yn hyrwyddo buddion yr iaith Gymraeg i fusnesau, ac yn cynnig camau y gall busnesau a mentrau eu cymryd i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.

Mewn ymchwil ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg, roedd 74% o gwsmeriaid yn cytuno bod defnydd archfarchnad o’r iaith Gymraeg yn dangos bod yr archfarchnad yn cefnogi’r gymuned leol. Gyda bron hanner poblogaeth Ceredigion yn siarad Cymraeg amcangyfrifir bod tua 36,000 o siaradwyr Cymraeg yn y sir fyddai’n bendant yn gwerthfawrogi busnes neu fenter sy’n cynnig gwasanaethau Cymraeg.

Yn y llyfryn ceir proffil o dri busnes yng Ngheredigion lle mae’r iaith yn cael ei defnyddio i atgyfnerthu brand lleol a naws lle. Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, “Y gobaith gyda’r llyfryn yw y bydd hyn yn ysbrydoli busnesau a mentrau eraill i ystyried sut y gallan nhw ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg. Mae’r llyfryn yn rhan o ymgyrch i sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael ei gweld a’i chlywed ar y strydoedd, ac i gefnogi busnesau bychain i gymryd mantais o’r cyfleoedd brandio mae’r iaith yn ei gynnig.”

Un o’r busnesau a bortreadir yw siop Anrhegion Cymreig a Chyffyrddiadau Steilus yn Aberaeron sydd yn gweithredu yn gwbl ddwyieithog. Mae’r gweithlu yn siarad Cymraeg, mae’r arwyddion yn ddwyieithog, ac mae’r cwmni hyd yn oed yn gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau fod y brandio ar eu cynnyrch yn ddwyieithog. Yn ôl Ann Hughes, sy’n rhedeg y busnes gyda’i merch Seren, mae’r iaith yn atgyfnerthu brand y busnes, yn denu dysgwyr Cymraeg i’r siop, ac yn cael effaith gadarnhaol ar dwristiaid, sy’n mwynhau gweld a chlywed yr iaith.

Mae Ann yn ddiolchgar i’w chwsmeriaid lleol am eu cefnogaeth, “Dwi’n prynu i gwsmeriaid lleol. Cryfder y busnes yw cefnogaeth pobl leol. Ond mae pobl ar wyliau yn lico mynd nôl a darn o Gymru gyda nhw hefyd.”

Datblygwyd y llyfryn gan dîm “Cymraeg yn y Gweithle” Cered-Menter Iaith Ceredigion. Gellir cysylltu â’r Swyddogion Datblygu ar 01545 572 350 am gopi o’r llyfryn ac am gymorth pellach i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn eich busnes neu fenter.

Dywedodd Non Davies, Rheolwr Cered, “Mae’r llyfryn hwn yn adnodd gwerthfawr wrth i’n Swyddogion Cymraeg yn y Gweithle ymweld â busnesau ledled y sir. Y nod yw cynorthwyo busnesau i’w galluogi i gymryd mantais o’r hyn gall defnydd o’r Gymraeg ei wneud nid yn unig i’r busnes unigol ond hefyd i’r economi leol.”

Mae’r prosiect Cymraeg yn y Gweithle wedi derbyn cefnogaeth LEADER drwy Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion) a ariennir drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

02/10/2018