Mae Llyfrgelloedd Ceredigion wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd, sydd yn cael ei gynnal rhwng 08 Hydref a 13 Hydref eleni.

Thema’r ymgyrch yw ‘Fy Amser, Fy Lle, Fy Llyfrgell’ a fydd yn ffocysu ar les. Bydd y digwyddiadau yn amlygu sut gall llyfrgelloedd ddod a chymunedau at ei gilydd, taclo unigrwydd, darparu lle i ddarllen a chreadigrwydd a hefyd yn gallu cefnogi pobl gyda’i iechyd meddwl.

I godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â lles, bydd adran ‘Iechyd a Lles’ newydd yn cael ei lansio yn Llyfrgell Aberystwyth ar ddydd Mawrth, 09 Hydref. Bydd yr adran yn cynnwys llyfrau ac adnoddau yn ymdrin ag ardaloedd o ddiddordeb o gwmpas Iechyd a Lles, yn cynnwys Iechyd Meddwl. I nodi’r lansiad, bydd ymarferwyr ioga a thylino llaw yn darparu cyfleoedd i ymlacio yn ogystal a stondinau gwybodaeth gyda chynrychiolwyr o Mind a Gofalwyr Ceredigion.

Cynhelir amryw o ddigwyddiadau eraill ar draws Llyfrgelloedd Ceredigion yn ystod yr wythnos, gan gynnwys:
• Sesiynau canu i blant gyda’r gantores Gwenda Owen yn Llyfrgell Aberteifi (9:30), Llyfrgell Aberaeron (11:30) a Llyfrgell Aberystwyth (13:30) ar 06 Hydref.
• Sgwrs gan Helen Palmer, Archifydd y Sir, am ddewiniaeth a hud yn Llyfrgell Llambed ar 09 Hydref am 19:30 (Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg).
• Noson Goffa i ddathlu gwaith y bardd a’r awdur enwog lleol, T. Llew Jones yn Llyfrgell Aberystwyth ar 10 Hydref am 19:30.
• Sesiwn crefft a stori gyda’r awdures lleol i blant, Wendy White yn Llyfrgell Aberteifi ar 13 Hydref am 11:00 (Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg).

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, Aelod Cabinet a chyfrifoldeb am Wasanaethau Llyfrgelloedd, “Eleni, mae Llyfrgelloedd Ceredigion wedi trefnu casgliad hyfryd o ddigwyddiadau i ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd, gyda rhywbeth i blesio pawb. Mae ein lles yn bwnc pwysig y dyliwn ni gyd neilltuo amser iddo felly mae’n bleser i glywed bod Llyfrgell Aberystwyth yn dangos cefnogaeth trwy ddarparu adnoddau llawn gwybodaeth. Mae’n galonogol bod y llyfrgelloedd yn ardaloedd sy’n groesawgar, cynhwysol ac yn cynnwys cyfleusterau amlbwrpas y gall bawb elwa ohonynt. Dewch i weld beth sydd ar gael i chi dros Wythnos Llyfrgelloedd eleni.”

Dilynwch Llyfrgelloedd Ceredigion ar Facebook neu eu gwefan am wybodaeth am ddigwyddiadau.

20/09/2018