Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi bod yn llwyddiannus wrth fynd ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau arbennig yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni. Cynhelir y gwobrau ar ddydd Gwener, 28 Mehefin yn Neganwy, Llandudno, lle gwelwn Weithwyr Ieuenctid o ledled Cymru yn dod at ei gilydd i ddathlu rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid gan Lywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth Gwaith Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid o bob cwr o Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dathlu rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid ers 1993 ac mae'r gwobrau bellach yn eu 25ain blwyddyn. Dywedodd Llywodraeth Cymru, “Mae dathlu Gwaith Ieuenctid yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan ein bod yn gwybod bod Gwaith Ieuenctid yn parhau i fod yn rhan bwysig o fywydau llawer iawn o bobl ifanc”.

Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion nid yn unig yn derbyn Gwobrau Marc Ansawdd Arian ac Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn y digwyddiad, ond maent hefyd ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau arbennig, lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar y noson.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer eu ‘Prosiect 2050’ o dan y categori; Hyrwyddo Treftadaeth a Diwylliannau yng Nghymru a Thu Hwnt, eu Clwb Coginio yn Ysgol Henry Richard o dan y categori; Hybu Iechyd, Lles a Ffyrdd o Fyw’n Egnïol a'r Rhaglen Ysbrydoli o dan y categori; Hyrwyddo Ymgysylltiad ag Addysg Ffurfiol, Cyflogaeth a Hyfforddiant.

Yn ogystal, mae Thomas Evans o Glwb Ieuenctid Aberaeron wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Gwirfoddolwr Eithriadol mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid a Lowri Evans o Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol â chyfrifoldeb dros Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Nid yw'n syndod bod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau o'r fath. Mae tîm y Gwasanaeth Ieuenctid wedi cyflawni pob un o'r tair Gwobr Marc Ansawdd Cenedlaethol, ac mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cymaint o wobrau arbennig yn gyflawniad aruthrol.”

“Bydd y noson wobrwyo sy'n dathlu Gwaith Ieuenctid rhagorol ledled y wlad yn gyfle gwych i'r Gwasanaeth Ieuenctid dderbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith gyda phobl ifanc yng Ngheredigion. Dymunaf bob dymuniadau da iddynt ar gyfer y noson.”

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook, Instagram neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

 

18/04/2019