Roedd picnic haf rhanbarthol yn llwyddiant mawr i ffoaduriaid Syriaidd yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Cafodd y picnic ar 1 Awst ei fwynhau gan 200 o ffoaduriaid Syriaidd sydd wedi dod i fyw yng Ngheredigion, Sir Benfro, Powys a Sir Gaerfyrddin.

Roedd yn gyfle i blant a theuluoedd sydd wedi ymgartrefu’n lleol gwrdd ag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg. Treuliodd y plant a’r rhieni y diwrnod yn cymdeithasu a chawsant gyfle i roi cynnig ar lawer o’r gweithgareddau ar y safle, gan gynnwys beicio cwad, go-karts, rhaffau uchel a thrampolîn.

Yn 2015 dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n adleoli 20,000 o ffoaduriaid o Syria o’r rhyfel Syriaidd yn y DU erbyn mis Mai 2020. Mae cynghorau Ceredigion, Powys, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan yn y rhaglen ailsefydlu ffoaduriaid mewn cydweithrediad â llawer o awdurdodau lleol eraill ledled y DU.

Mynychodd Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Peter Davies, y digwyddiad i groesawu’r ffoaduriaid i Langrannog. Dywedodd: “Roeddwn wrth fy modd i gael croesawu nifer o deuluoedd o ffoaduriaid Syriaidd i Langrannog a Cheredigion. Roedd hi wedi fy nhrawi, er gwaethaf erchyllterau’r rhyfel Syriaidd, fod Ceredigion a chynghorau eraill wedi gallu helpu rhai teuluoedd i gyrraedd diogelwch. Roedd hi’n galonogol iawn gweld cymaint o deuluoedd yn mwynhau diwrnod hyfryd ar arfordir Cymru pan allai eu sefyllfa fod wedi bod mor wahanol.”

Cyfarfu'r Cynghorydd Davies â bachgen o'r enw Hamza yn gwisgo cit Dinas Abertawe. Fel ffan frwd o’r Elyrch, roedd Cynghorydd Davies wrth ei fodd i ddysgu bod Hamza hefyd yn gefnogwr brwd o’r Elyrch.

Fe barhaodd y Cynghorydd Davies: “Er ein bod yn dod o wahanol wledydd a diwylliannau, fe wnaethon ni fwynhau cwmni ein gilydd. Mae gan bawb ohonom ddynoliaeth gyffredin gref. Roeddwn i wrth fy modd i wneud ffrind newydd ar y diwrnod hefyd. Er mod i erioed wedi cwrdd â Hamza na’i ffrindiau o’r blaen, roedd gennym dir cyffredin hawdd wrth gefnogi’r Elyrch. Mae pethau fel hyn yn bwysicach nag unrhyw wahaniaethau.”

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac mae’n Gadeirydd Grŵp Ailsefydlu Ffoaduriaid Ceredigion. Dywedodd: “Rwy'n falch iawn eu bod i gyd wedi cael diwrnod difyr a'u bod wedi cael cyfle i gwrdd â chymysgu â phobl eraill sydd wedi bod trwy galedi tebyg cyn dod i Gymru. Rwy'n siŵr bod gwersyll yr Urdd yn Llangrannog yn lleoliad gwych ar gyfer diwrnod allan hwyliog i'r plant.”

2019 yw'r drydedd flwyddyn y mae'r pedair sir yn rhanbarth Cymru wedi dod ynghyd ar gyfer digwyddiad ffoaduriaid yn yr haf. Yn 2017, cynhaliodd Powys ffoaduriaid am ddiwrnod o hwyl ar faes Sioe Frenhinol Cymru. Yn 2018 buont yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri.

16/09/2019