Bu pedwar sefydliad o Geredigion yn llwyddiannus yng Ngwobrau Rhagoriaeth Estyn ym mis Hydref.
Cylch Chwarae Dwyieithog Aberporth a Chylch Meithrin Talgarreg oedd cynnwys hanner y meithrinfeydd a gafodd eu cydnabod am ragoriaeth.
Roedd Ysgol Dyffryn Cledlyn ac Ysgol Mynach yn ddwy o 29 ysgol gynradd a gafodd eu cydnabod ar y noson.
Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd: “Rydym yn hynod o falch bod Estyn wedi cydnabod y rhagoriaeth a gafwyd yn yr ysgolion a'r lleoliadau hyn. Hoffwn longyfarch yr holl staff, y disgyblion, y llywodraethwyr a'r rhieni yn ddiffuant."
05/11/2019