Ar ddiwedd tymor yr haf, cwblhaodd pum ysgol gynradd ac un ysgol gyfun prosiect cenedlaethol ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ yn llwyddiannus ac wedi elwa trwy dderbyn achrediad cenedlaethol Ysgolion sydd yn Ymwybodol o Awtistiaeth.

Mae Ysgol Penweddig, Ysgol Llwyn yr Eos, Ysgol Gynradd Aberaeron, Ysgol Bro Sion Cwilt, Ysgol Craig yr Wylfa ac Ysgol Felinfach yn nawr i gyd ag achrediad Ysgolion sydd yn Ymwybodol o Awtistiaeth. Mae gan ysgolion eraill ar draws Ceredigion gynlluniau mewn lle i weithio trwy’r prosiect yma yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Nod yr achrediad, sydd wedi’i ddatblygu gan ASDinfo Wales, y wefan genedlaethol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd (ASA), yw codi ymwybyddiaeth o ASA/Awtistiaeth gyda’r oll aelodau o gymuned ysgol.

Yn ogystal â’r achrediad, mae hyfforddiant wedi cael ei darparu i aelodau o staff cymorth mewn 31 ysgol gynradd a’r saith ysgol gyfun i fod yn 'Bencampwyr Awtistiaeth', i gynyddu’n bellach gallu ysgol mewn cefnogi disgyblion ag awtistiaeth ac i ddarparu cyngor i athrawon o fewn eu hysgolion. Datblygwyd a chyflwynwyd y cwrs hyfforddiant gan gynrychiolwyr o ystod o wasanaethau arbenigol, gan gynnwys Seicoleg Addysg, therapi Iaith a Lleferydd, therapi Galwedigaethol yn ogystal ag athrawon ymgynghorol AAA/ADY ac athrawon arbenigol o ganolfannau adnoddau arbenigol yng Ngheredigion.

Dyrannwyd arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru trwy eu Prosiect Arloesi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gan ganiatáu Cyngor Sir Ceredigion i ddatblygu dulliau mwy arloesol o ddarparu gwasanaethau allgymorth er mwyn datblygu gallu ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion ag ADY ymhellach. Dewisodd tîm AAA/ADY Ceredigion ganolbwyntio ar gynyddu cynhwysedd ysgolion ymhellach i ddiwallu anghenion disgyblion ag awtistiaeth yn fwy effeithiol gan fod y grŵp penodol hwn o ddysgwyr sydd ar agor i niwed yn parhau i fod yn ffocws yng Ngheredigion yn ogystal ag yn genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Mae’r rhaglen ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ yn gam fawr tuag at godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth bellach o Awtistiaeth ac i sicrhau mae ysgolion Ceredigion wedi'i chyfarparu'n llawn i ddiwallu anghenion disgyblion ag awtistiaeth yn fwy effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi a darparu addysg gynhwysol i bob plentyn sy'n byw yng Ngheredigion."

Cysylltwch â Thîm Anghenion Addysgol Arbennig Ceredigion trwy e-bostiwch sen@ceredigion.gov.uk neu 01970633710.

22/08/2018