Rhoddwyd canmoliaeth arbennig i Gyngor Sir Ceredigion yng ‘Ngwobr Newid y ffordd yr ydym yn gweithio Llywodraeth Leol’. Roedd y wobr yma am eu llwyddiant yn ymgorffori ystyriaethau ecolegol i mewn i’w gwaith ar reoli a chynnal ystâd gwyrdd priffyrdd y sir.

Mae Cymdeithas Ecolegwyr Llywodraeth Leol wedi nodi ei ben-blwydd yn 25 oed gyda cyfres o wobrau. Mae’r gwobrau yma yn cydnabod cyfraniad eu aelodau a’u partneriaid i hyrwyddo cynhaliaeth natur a’r ffordd y mae’n cael ei gyflawni yn lleol.

Nododd Julia Pschera, Ecolegydd Priffyrdd Cyngor Sir Ceredigion, “Rwy’n falch iawn bod gwaith Ceredigion yn yr ardal yma wedi derbyn cydnabyddiaeth swyddogol. Mae hyn yn enwedig gan fod nifer o’n trigolion ddim yn ymwybodol o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud sy’n cyfrannu at warchod dolydd mewn perygl a rhywogaethau cysylltiedig.”

Roedd Ceredigion yn fabwysiadwr cynnar mewn Gwarchodfeydd Natur Ymyl y Ffordd. Rheolir holl safleoedd glaswelltir ymhlith y cronfeydd hyn gyda toriad hwyr yn y tymor a chael gwared ar y llystyfiant sydd wedi ei dorri. Trwy hyn, mae’n dynwared rheolaeth ddôl wair draddodiadol sy’n rhoi cyfle i flodau gwyllt flodeuo a gosod hadau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai, “Rydym yn gofalu am dros 2,000 km o briffyrdd yng Ngheredigion. Er mai diogelwch defnyddwyr y ffyrdd yw ein prif bryder, rydym yn falch ein bod yn gallu rheoli rhai o’r ymylon cysylltiedig ar gyfer peillwyr a bywyd gwyllt arall. Mae’r ganmoliaeth yn anogaeth i barhau a datblygu ein gwaith ymhellach yn y maes hwn.

Cyhoeddwyd yr enillwyr yng nghynhadledd Cymdeithas Ecolegwyr Llywodraeth Leol yn Llundain ar 03 Rhagfyr 2019.

Yn cyflwyno’r gwobrau oedd Madeleine Moon, i Julia Pschera, Cyngor Sir Ceredigion.

18/12/2019