Mae adran Plymio Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) wedi bod yn dathlu llwyddiant dau brentis, Shannon Haf Burril a Robert Davies, mewn cystadleuaeth masnach ledled DU yn ddiweddar.

Fe wnaeth Shannon Haf Burril (Haf), prentis plymio Lefel 2, gystadlu yn erbyn masnachwyr uchelgeisiol ledled y DU i gynrychioli HCT yng nghystadleuaeth ‘Screwfix Trade Apprentice 2018’. Roedd rhaid i Haf gwblhau cyfres o dasgau, yn cynnwys creu fideo yn arddangos ei sgiliau plymio. Roedd y beirniaid yn edrych am broffesiynoldeb, creadigrwydd, arloesid, brwdfrydedd a gwybodaeth yn y diwydiant plymio. Wrth greu argraff ar y beirniaid, llwyddodd Haf i fynd ymlaen i’r rownd derfynol y gystadleuaeth, ym Mhencadlys Google yn Llundain.

Dywedodd Annabel Cooper, tiwtor plymio yn HCT, “Llongyfarchiadau i Haf am wneud mor dda yn cystadlu a rhoi ymdrech enfawr i fynd trwyddo i’r deg olaf ledled y DU. Rwy’n hynod o falch o Haf, ac yn gobeithio y bydd hi’n parhau i ragori yn ei maes yn y dyfodol.”

Prentis plymio Lefel 3 o HCT, Robert Davies, oedd yn llwyddiannus wrth fynd ymlaen i rownd derfynol cystadleuaeth masnach fawr sef World Skills UK. Daeth Robert yn gyntaf yn rownd Gorllewin Cymru o’r gystadleuaeth ac yn ail dros Gymru gyfan, ar ôl cwblhau cyfres o brofion ymarferol er mwyn dangos ei allu a’i sgiliau Plymio. Bydd Robert yn mynd ymlaen i gynrychioli HCT yn y rownd derfynol Genedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2018. Os yn llwyddiannus, bydd gyda Robert y siawns i gystadlu yn rownd derfynol y DU a fydd yn cael ei chynnal yn sioe WSUK Skills yn yr NEC yn Birmingham ym mis Tachwedd 2018.

Dywedodd Daniel Beale, tiwtor plymio yn HCT, “Mae Robert yn dechnegydd medrus iawn ac mae siawns campus gyda fe i fynd trwyddo i rownd derfynol y DU. Yn HCT, rydym i gyd yn falch iawn ohono ac yn rhoi ein cefnogaeth llawn iddo.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, “Mae’n hyfryd i glywed llwyddiant y ddau brentis ysbrydoledig yma. Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, hoffwn ddymuno’r gorau iddyn nhw yn eu gyrfa yn y dyfodol. Mae HCT yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol i bobl o bob oedran, yn cynnwys Trin Gwallt, Gofal Plant, Gweinyddiaeth Busnes, Gwybodaeth Dechnegol, Gwaith Saer, Gwaith Plymio, Gwaith Trydan, Gwaith Gof, Amaethyddiaeth, Mecaneg Moduron a Weldio.”

Am fwy o wybodaeth, chwiliwch am HCT ar Facebook, /HyfforddiantCeredigion, neu ewch i’r wefan: http://www.ceredigion.gov.uk/public-it/hct/indexc.html

 

08/05/2018