Gyda draig goch fawr yn eu harwain, gorymdeithiodd cannoedd o bobl ar hyd Stryd Fawr Aberteifi ym Mharêd Gŵyl Dewi liwgar cyntaf y dref ar ddydd Gwener, 1 Mawrth.Trefnwyd y parêd gan Cered: Menter Iaith Ceredigion er mwyn dathlu ein hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg yn Aberteifi.

Dechreuodd y parêd yn Neuadd y Dref am 1yh cyn symud i lawr y Stryd Fawr tuag at Gastell Aberteifi. Yn arwain y Parêd roedd draig goch drawiadol Theatr Byd Bychan a oedd yn ei symud ei hadenydd ac yn diddanu’r torfeydd ar hyd llwybr y parêd. Yn dilyn y ddraig roedd cannoedd o blant ac oedolion yn dal baneri Cymreig, nifer ohonynt mewn gwisg Gymreig draddodiadol. Braf hefyd oedd gweld pyped anferth o’r cymeriad chwedlonol lleol, Y Wiber yn ymuno yn y parêd.

Wedi cyrraedd safle’r castell, cynhaliwyd seremoni fer i nodi’r achlysur. Croesawyd y dorf gan Jac Davies, Cyfarwyddwr Castell Aberteifi, cyn iddo gyflwyno adloniant cerddorol gan ddwy o’r ysgolion cynradd lleol sef Ysgol Gymunedol Penparc ac Ysgol Gynradd Aberteifi. Cafwyd anerchiadau hefyd gan Ben Lake AS a Maer y Dref, y Cynghorydd John Adams-Lewis cyn diweddu gyda gweddi wedi ei thraddodi gan y Parchedig Irfon Roberts a chloi gyda’r anthem genedlaethol.

Dywedodd Non Davies, Rheolwr Cered, “Bu’r parêd cyntaf o’i math yn Aberteifi yn hynod lwyddiannus - braf oedd gweld cymaint o bobl leol o bob oed - yn blant a phobl ifanc ynghyd a theuluoedd yn ymuno gyda’i gilydd i ddathlu ein Cymreictod. Roedd brwdfrydedd pawb yn amlwg ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth. Er mai hon oedd y parêd cyntaf o’i math, o weld y gefnogaeth rwy’n siŵr mai nad hon fydd yr olaf!”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Cered ar 01545 572 350 neu drwy e-bost ar: steffan.rees@ceredigion.gov.uk.

07/03/2019