Cyfrannodd Cronfa Datblygiad Plant gan Lywodraeth Cymru at allu Ceredigion i ddarparu sawl gwasanaeth ychwanegol rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021.

Un o'r rhain yw'r ddarpariaeth ‘Allgymorth Gofal Plant’, a chaiff y cyllid hwn ei dalu'n uniongyrchol i leoliadau gofal plant er mwyn rhoi'r cyfle i deuluoedd sy'n cael anawsterau, sicrhau gofal plant gyda meithrinfeydd neu warchodwyr plant lleol. Cyfeirir y teuluoedd gan weithwyr proffesiynol fel Ymwelwyr Iechyd, Therapyddion Iaith a Lleferydd neu staff gofal plant.

Prif bwrpas y ddarpariaeth hon yw cynnig y cyfle i blant (0-4 oed) mewn teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID-19, drwy golli incwm neu lle mae iechyd meddwl wedi bod yn broblem, i “ddal i fyny” o ran eu cerrig milltir datblygiadol. Mae dros 40 teulu ar draws y Sir wedi gallu manteisio ar y gefnogaeth hwn. Dywed un rhiant, “Byddaf yn treulio'r amser yn gwneud therapi ar-lein a dyma’r seibiant iechyd meddwl sydd ei angen arnaf.  Rydw i'n dioddef o broblemau arennau, sy'n codi dro ar ôl tro sy’n arwain at fynd i’r ysbyty. Hwn yw'r seibiant sydd angen arnaf er mwyn i mi allu parhau. Mae'r help hwn wedi bod o gymorth aruthrol i mi, roeddwn mewn lle tywyll ac mae cael y seibiant yn helpu fy iechyd meddwl yn sylweddol, rydw i mor ddiolchgar.”

Dywed un arall, “Mae’r [Gofal Plant Allgymorth] wedi tynnu’r pwysau oddi arnaf, gan fod gen i efeilliaid 10 mlwydd oed gartref ac rwyf wedi gweld hi’n anodd trwy’r Pandemig Covid gan taw ond 8 wythnos yn yr ysgol y maent wedi derbyn mewn blwyddyn. Hefyd, rydw i ffwrdd gyda salwch hunan imiwn ac wedi bod yn brwydro gyda budd-daliadau. Mae fy mhlentyn yn mwynhau ei amser yn y gofal plant ac mae’r ffaith ei fod wedi gallu mynychu trwy’r amser hwn wedi gweithio gwyrthiau arno.”

Dywed Catrin Evans, Gweithwraig Cymorth i Deuluoedd, “Credaf bod y Gofal Plant Allgymorth wedi cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd, er enghraifft mae cwsg ac ymddygiad plentyn wedi gwella oherwydd yr ysgogiad a'r drefn y maent yn eu derbyn yn y Feithrinfa. Mae rhieni hefyd yn adrodd eu bod yn cael seibiant, ac mae’n rhoi cyfle iddynt dreulio amser gwerthfawr gyda brodyr a chwiorydd iau.” 

Mae'r cyllid hefyd wedi cyfrannu at Grant ‘Cotiau ac Esgidiau Glaw’.  Mae hwn yn darparu dillad i rieni a phlant (0-5 oed) er mwyn sicrhau bod ganddynt gotiau ac esgidiau addas i aros yn sych ac yn gynnes pan fyddant allan ym mhob tywydd. Cyfeirir teuluoedd gan Weithwyr Cymorth i Deuluoedd a rhoddir talebau iddynt wario’n benodol ar yr eitemau hyn.  Mae hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, wrth i dros 70 teulu elwa o'r ddarpariaeth.

Yn ogystal, defnyddiwyd y cyllid i brynu pecynnau gweithgaredd sy'n llawn adnoddau er mwyn hyrwyddo chwarae corfforol. Rhoddir fideos wythnosol ar Facebook a YouTube sy'n cynnig syniadau ynghylch sut i ddefnyddio'r adnoddau yn effeithiol.  Dywed un fam-gu, “Hoffwn ddweud fy mod i wedi bod yn chwarae'r fideos ar YouTube i'm hwyrion a'm hwyresau yn y cartref, yn enwedig ar ddiwrnodau gwlyb pan nad ydyn nhw wedi gallu mynd allan. Rwyf wrth fy modd yn eu gweld yn cyflawni'r holl wahanol ymarferion! Mae'n peri iddynt symud a llosgi'r holl egni sydd ganddynt.” Gellir ddod o hyd i’r fideos hyn wrth ymweld â: @TeuluoeddCeredigionFamilies a @CeredigionActif.

Yn olaf, mae’r cyllid ychwanegol wedi darparu cyfleodd i brynu hyfforddiant ac adnoddau i leoliadau gofal plant a staff canolfannau teulu, offer synhwyraidd i blant gydag Awtistiaeth a helpu teuluoedd gael mynediad at gyrsiau rhianta ar-lein yn ystod y pandemig.

12/03/2021