Cafwyd llwyddiant i Geredigion ym Mhencampwriaeth Rhwyfo Dan-do Cenedlaethol gan ddod yn ôl a naw medal.

Wedi ei gynnal ar ddydd Gwener a Sadwrn, 22 a 23 Tachwedd yng Nghanolfan Hamdden Channel View, dyma 20fed pen-blwydd y digwyddiad. Y nod yng Ngheredigion yw tyfu rhwyfo dan-do a hyrwyddo Clybiau Rhwyfo Mor lleol.

Ar y dydd Gwener, fe wnaeth 14 o blant o Ysgol Gyfun Aberaeron ac Ysgol Bro Teifi, Llandysul gymryd rhan yn nigwyddiad yr ysgolion. Roedd rhai wedi cystadlu am y tro cyntaf y llynedd, gydag eraill wedi rhwyfo yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf eleni. Roedd y safon yn eithriadol o uchel, gydag ysgolion o Gymru a Lloegr yn cystadlu, a naw record wedi ei dorri o fewn yr 20 ras a gafodd ei gynnal ar y diwrnod.

Enillwyd tair medal yn nigwyddiad yr ysgolion. Enillodd Beri Tomkins o Ysgol Bro Teifi a Finley Tarling a Dylan Gwynne Jones o Ysgol Gyfun Aberaeron fedal aur yr un. Fe wnaeth 10 o’r plant gyflawni eu hamseroedd gorau personol gyda Beri a Finley hyd yn oed yn torri record genedlaethol.

Ar y dydd Sadwrn, cynhaliwyd rasys y clybiau lle enillwyd dwy fedal iau a phedwar medal hŷn. Enillodd Dylan Gwynne Jones fedal aur ar gyfer rhwyfo 4 munud o dan 16. Enillodd Beri Tomkins medal aur gyda pherfformiad personol orau o 543 metr wedi ei rhwyfo mewn dwy funud. Mae Beri nawr yn dal pedwar record sef record ysgol blwyddyn 6 a Chymru; a record ysgol blwyddyn 7 a Chymru.

Yn nigwyddiad yr oedolion, enillodd Leo O’Connor medal efydd am 500m dros 60 oed; enillodd Hannah Lodder dwy fedal aur ar gyfer 500m i fenywod dros 40 oed a 2km i fenywod dros 40 oed; a enillodd Sam Owen medal arian ar gyfer 2km i fenywod dros 40 oed.

Mae sesiynau rhwyfo dan-do wythnosol yn cael eu cynnal yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul; Ysgol Gyfun Aberaeron; a Ysgol Bro Pedr, Llambed. Mae’r sesiynau yma yn cael eu cefnogi gan CRIW sef grŵp rhwyfo dan-do Ceredigion. Mae CRIW hefyd yn rhedeg sesiynau ar nos Lun yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.

Dywedodd Rhidian Harries, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol, “Mae Rhwyfwyr Ifanc o Geredigion wedi gwneud yn arbennig o dda yn y gystadleuaeth genedlaethol yma. Roedd y digwyddiad wedi ei drefnu’n dda, gyda llawer o ysgolion o Loegr sy’n adnabyddus am fod yn ysgolion rhwyfo wedi mynychu. Er hyn, dangosodd plant Ceredigion eu bod yn medru cystadlu yn erbyn unrhyw un. Mae’n glod mawr iddynt a hefyd i CRIW sy’n gweithio’n ddiflino i dyfu’r gamp yn yr ardal. Mae eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd wedi bod yn hanfodol. Dylent gymryd pleser mawr yn y llwyddiant a pherfformiadau’r rhwyfwyr ifanc hyn.”

Bydd CRIW yn cynnal Cystadleuaeth Rhwyfo Dan-do yng Nghanolfan Hamdden Teifi, Aberteifi ar ddydd Sadwrn, 28 Mawrth 2020. Chwiliwch amdanynt ar Facebook i gael mwy o wybodaeth.

 

29/11/2019