Mae'r canlyniadau TGAU a gyhoeddwyd heddiw (22 Awst) gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn parhau i gynnal safonau eithriadol o uchel.
Derbyniodd 98.8% o'r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC raddau A* i G, gyda 24.9% ohonynt yn ennill graddau A* ac A. Fe wnaeth 72.5% o’r ymgeiswyr ennill graddau A*- C.
Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Rydym wrth ein bodd gyda cyflawniadau disgyblion Ceredigion mewn amrywiol feysydd. Maent wedi profi unwaith eto bod ymroddiad a gwaith caled yn arwain at lwyddiant. Hoffwn ddiolch o galon i staff a llywodraethwyr yr ysgolion am eu harweiniad a’u cefnogaeth gyson i’n disgyblion ar bob adeg. Dymunwn y gorau i ddisgyblion Ceredigion wrth iddynt gamu’n hyderus ar eu dewis lwybr.”
Dyma dabl isod yn dangos y ffigyrau ar gyfer Ceredigion a Chymru:
|
Ceredigion |
Cymru |
Gradd A*-A |
24.9% |
18.4% |
Gradd A*-C |
72.5% |
62.8% |
Gradd A*-G |
98.8% |
97.2% |
O gymharu â’r cyfartaledd ledled Cymru, enillodd ymgeiswyr Ceredigion dros 6% yn fwy o raddau A*-A a bron 10% yn fwy o raddau A*-C.
22/08/2019