Mae llwybr cyd-ddefnyddio newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng Bow Street ac IBERS ym Mhlas Gogerddan wedi cael ei gwblhau, gyda'r lansiad swyddogol ar 6 Mehefin 2019.

Adeiladwyd y llwybr gan Gyngor Sir Ceredigion, gyda chymorth gan y Gronfa Trafnidiaeth Leol. Mae’n darparu llwybr di-draffig rhwng cymunedau Bow Street a Phenrhyncoch ac hefyd i safle newydd y Campws Arloesi a Menter a ddatblygir gan Brifysgol Aberystwyth ym Mhlas Gogerddan.

Bydd y cynllun hefyd yn cynnig cyswllt â’r Gyfnewidfa Cludiant Teithwyr ym Mow Street. Bydd gan drigolion fynediad gwell i lwybrau cerdded drwy’r coed yng Ngogerddan a Phwll Crwn.

Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth er mwyn cyflwyno’r cynllun. Bydd y bartneriaeth hon yn parhau gan fod cynlluniau pellach ar gyfer Cam 2, sef ymestyn y llwybr rhwng Plas Gogerddan a Penrhyncoch.

Mae’r cynllun wedi datblygu nifer o fanteision amgylcheddol. Mae sarn newydd i ddyfrgwn wedi cael ei osod o dan bont er mwyn eu diogelu. Mae cynefin naturiol hefyd wedi’i greu ar gyfer bywyd gwyllt. Plannwyd coed ac mae perth wedi’i hailblannu sy’n cynnwys amrywiaeth ehangach o rywogaethau brodorol.

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai. Dywedodd, “Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n fwy anodd i ddarparu cyfleusterau buddiol newydd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol y cydweithio parhaus rhwng swyddogion y cyngor a Phrifysgol Aberystwyth a Llywodraeth Cymru.

“Diolch iddynt am ddatblygu’r prosiect ac i’r contractwyr lleol, TTS am gyflawni prosiect o ansawdd uchel a fydd yn hybu ffyrdd iachach o fyw a hynny drwy annog pobl i gerdded a beicio yn ddiogel yn Bow Street, Penrhyncoch a’r cymunedau cyfagos.”

07/06/2019