Mae llwybr amgen nawr ar gael i gerddwyr ar ran o Lwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn tirlithriad.

Mae Swyddogion Cyngor Sir Ceredigion wedi archwilio rhan fer o lwybr yr arfordir yn Nhresaith yn dilyn tirlithriad dros y penwythnos. Mae’r llwybr ar gau i’r cyhoedd. Er hyn, mae llwybr amgen nawr ar gael ar hyd heol fach o Dresaith i Aberporth.

Mae Swyddogion yn gweithio gyda tirfeddiannwr cyfagos i ddod o hyd i, a sefydlu datrysiad hir dymor. Bydd hyn i sicrhau bod y rhan poblogaidd iawn yma o’r llwybr yn cael ei adfer cyn gynted ag y bo modd.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio. Mynegodd ei ddiolch i’r cerddwyr a adroddodd y mater yn y lle cyntaf ac i swyddogion am weithredu’n gyflym i sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn cael ei gynnal.

Mae gwybodaeth bellach ar leoliad y darn sydd ar gau, a hefyd y llwybr amgen, ar gael ar wefan Wales Coast Path: https://www.walescoastpath.gov.uk/latest-news/temporary-path-diversions/?lang=cy neu drwy ffonio 01545 570881 i drafod gydag aelod o’r Tîm Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ceredigion.

Mae'r llun yn dangos y tirlithriad a'r map yn dangos y llwybr sydd ar gau dros dro a’r Llwybr Amgen.

19/12/2019