Cynhaliwyd gweithdai yn ddiweddar gyda’r bitbocswr Cymraeg, Mr Phormula yng nghlybiau ieuenctid Penparcau ac Aberaeron, a threfnwyd gan Cered: Menter Iaith Ceredigion ynghyd â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion.

Mr Phormula yw un o arloeswyr y sîn bitbocsio ac mae’n adnabyddus am gydweithio gyda rhai o fawrion y sîn hip – hop ar draws y DU. Gyda 13 blynedd o brofiad o weithio mewn amgylchedd addysgol, mae’n awyddus i gefnogi datblygiad plant, gan gynnwys eu haddysgu am sgiliau newydd a magu hyder.

Roedd y noson yn gyfle gwych i’r bobl ifanc ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn wahanol i iaith ddydd i ddydd. Rhoddwyd nifer o gyfleoedd gwahanol iddynt bitbocsio gyda gwahanol fathau o gerddoriaeth a steil.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered, “Roedd yn wych gweld y bobl ifanc yn mwynhau bitbocsio drwy’r iaith Gymraeg gyda Mr Phormula. Roedd hefyd yn gyfle i’r plant dysgu sgiliau newydd a magu hyder trwy wneud gweithgaredd ffantastig.”

Dywedodd Lowri Evans, Dirprwy Brif Swyddog Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae aelodau’r clwb â diddordeb mawr mewn cymryd rhan a gwrando ar y gwahanol bethau mae Mr Phormula yn gallu creu ar feicroffon. Mae’n rhywbeth hollol newydd! Mae hyn hefyd yn helpu aelodau’r clwb gyda’i hyder yn y Gymraeg. Mae’n braf iawn i ddatblygu perthynas a chydweithio gyda Cered, sef un o’n prif bartneriaethau ni ar draws y sir.”

Am fanylion pellach am y gwahanol weithgareddau mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn trefnu, cysylltwch ar dîm ar 01545 572352 neu youth@ceredigion.gov.uk. Os hoffech gysylltu â Cered: Menter Iaith Ceredigion, cysylltwch â 01545 572350 neu cered@ceredigon.gov.uk.

09/07/2019