Trefnwyd Cered: Menter Iaith Ceredigion ddosbarth feistr Minecraft a gafodd ei chynnal yn Theatr Felinfach ar gyfer enillwyr y gystadleuaeth Minecraft 2019 a gynhaliwyd mis diwethaf.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered, “Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn gyda phawb yn mwynhau. Ein pwrpas i gynnal sesiynau o’r fath yw ein bod yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc trwy fentrau poblogaidd fel Minecraft i ddefnyddio’r iaith Gymraeg tu allan yr ysgol.”

Enillwyr y gystadleuaeth oedd Taylor Lewis, Cai Allan, Kondrad Syguda a Dwylan Jenkins sy’n ddisgyblion o Ysgol Bro Pedr. Dywedodd un o’r bechgyn, “Mae’r gystadleuaeth a’r sesiwn heddiw wedi rhoi fwy o hyder i fi wneud mwy o bethau yn y Gymraeg.”

Fe fydd Cered yn cynnal fwy o weithgareddau yn y maes technegol yn y Gymraeg yn y dyfodol agos, felly cadwch lygaid allan. I ddarganfod fwy o wybodaeth ynglŷn â beth mae Cered yn ei wneud cysylltwch ar swyddfa ar 01545 572350 neu drwy e-bost ar cered@ceredigion.gov.uk.

02/04/2019