Dymuna Cyngor Sir Ceredigion longyfarch disgyblion Ceredigion sydd yn derbyn eu canlyniadau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yr wythnos hon.

Mae’r canlyniadau Safon Uwch a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn parhau i gyrraedd safonau uchel. Mae 98.4% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A* i E, gyda 42.1% yn ennill  graddau  A* - A. 

Mae’r tablau canlynol yn nodi’r ffigurau cymharol. Nid yw’r canlyniadau hyn yn cynnwys Bagloriaeth Cymru na chanlyniadau unrhyw fwrdd arholi arall heblaw CBAC:

 

Ceredigion 2022

Cymru 2022

Gradd A* - A

42.1%

40.9%

Gradd A* - B

70.2%

52.0%

Gradd A* - C

89.2%

76.3%

Gradd A* - E

98.4%

97.6%

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau gwresog i ddisgyblion Ceredigion ar eu llwyddiant yn eu cymwysterau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol. Maent wedi gweithio’n galed tu hwnt ac estynnwn ein gwerthfawrogiad i’r holl athrawon a staff ysgolion. Dymuniadau gorau i bob un yn y dyfodol.”

Gair gan yr ysgolion

Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr: “Llongyfarchiadau i’n holl ddisgyblion ar eu canlyniadau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Yn dilyn heriau’r pandemig a’r ffaith nad oedd gan y garfan hon ddim profiad o sefyll arholiadau allanol o’r blaen, rydym yn arbennig o falch o gyflawniadau ein disgyblion eleni. Fel ysgol, hoffem ddiolch i’r disgyblion, y rhieni a’r athrawon am eu cymorth a’u cefnogaeth barhaus. Dymunwn bob llwyddiant i’n disgyblion Blwyddyn 13 wrth iddynt nawr gychwyn ar bennod nesaf eu bywydau, boed hynny yn y Brifysgol, coleg neu fyd gwaith.”

Gareth Evans, Pennaeth Dros Dro Ysgol Bro Teifi:Mae’r Ysgol yn ymfalchïo yn llwyddiant ysgubol y disgyblion yn eu harholiadau Safon Uwch eleni. Yn dilyn cyfnod heriol iawn i’r disgyblion yn y blynyddoedd diwethaf, rhaid eu llongyfarch ar y ffordd gwnaethant ymdopi gyda’r arholiadau ac mae’n braf nodi y bydd y mwyafrif helaeth ohonynt yn parhau gyda’u haddysg yn eu dewis cyntaf o brifysgol.  Mae eraill wedi sicrhau prentisiaethau amrywiol neu swyddi a dymunwn yn dda iddynt oll. Hoffwn ddatgan ein diolch i’r athrawon, staff a rhieni am eu cefnogaeth yn ystod y dwy flynedd ddiwethaf er mwyn sicrhau llwyddiant y disgyblion. Cafwyd hefyd set o ganlyniadau Uwch Gyfrannol cadarnhaol iawn ac edrychwn ymlaen at y disgyblion yn dychwelyd i’w blwyddyn olaf yn Ysgol Bro Teifi.”

Nicola James, Pennaeth Ysgol Uwchradd Aberteifi: “Rydym yn hynod falch o’n holl fyfyrwyr. Mae eu cyflawniadau eleni yn dyst i'w cydnerthedd, eu hetheg gwaith ragorol a’u penderfyniad i lwyddo. Mae’r canlyniadau rhagorol hyn yn dilyn dwy flynedd o darfu ac ansicrwydd digynsail mewn addysg. Bu myfyrwyr a staff yn gweithio gyda’i gilydd yn ddiwyd i oresgyn yr heriau a achoswyd gan y pandemig ac er bod dychwelyd i arholiadau allanol eleni yn frawychus, mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain. Diolchaf i’r staff am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i roi’r profiadau addysgu a dysgu gorau i’n myfyrwyr a diolchaf i’r holl rieni am gefnogi eu plant a’r ysgol. Rydym i gyd yn ymhyfrydu yn y llwyddiannau haeddiannol hyn, ac yn dymuno’r gorau i’n holl ddisgyblion ar gyfer eu dyfodol.”

Owain Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Aberaeron: Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron ar ganlyniadau Lefel A, BTEC ac AS ardderchog. Rydym yn hynod falch o waith ac ymdrechion y myfyrwyr dros y ddwy, ac yn wir y 7 mlynedd diwethaf. Mae’r canlyniadau yn adlewyrchu ymrwymiad, gwaith caled a chydweithio parod rhwng disgyblion, staff, a rhieni a gofalwyr. Er bod cyfnodau helaeth o’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i ddisgyblion, mae eu gwaith caled, eu dycnwch a’u huchelgais yn cael eu hadlewyrchu mewn canlyniadau rhagorol a haeddiannol. Dymunwn y gorau i’n holl ddisgyblion boed yn astudio gradd mewn Prifysgol, yn dilyn prentisiaeth neu yn symud i fyd gwaith.”

Rhodri Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Penweddig: “Llongyfarchiadau i holl fyfyrwyr y chweched ddosbarth ar eu canlyniadau ardderchog eleni. Maent wedi goresgyn heriau sylweddol y blynyddoedd diwethaf i berfformio’n arbennig yn eu harholiadau. Roedd bron 60% o’r graddau safon uwch yn A* neu A gyda phob myfyriwr yn llwyddo i gael lle yn eu dewis cyntaf o brifysgolion. Dymunwn y gorau iddynt oll yn y dyfodol.”

Mair Hughes, Pennaeth Ysgol Gyfun Penglais: “Rydym mor falch o’n myfyrwyr eleni. Er gwaethaf yr heriau digynsail y maent wedi’u hwynebu dros y tair blynedd diwethaf, maent wedi llwyddo i gyflawni canlyniadau Safon Uwch gwych. Llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd a diolch i’r holl staff a theuluoedd sydd wedi cefnogi’r myfyrwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

18/08/2022