Pantomeim y Little Mill Players eleni yw ‘Treasure Island’ a fydd y perfformiadau yn Theatr Felinfach ar Nos Iau, 31 Ionawr a Nos Sadwrn, 2 Chwefror am 7:30yh. Bydd perfformiad matinée ar brynhawn Sadwrn hefyd am 2:30yp.

Yn fras, mae’r pantomeim yn dilyn plot y nofel wreiddiol gan Robert Louis Stevenson, gyda nifer o’r cymeriadau gwreiddiol yn cymryd rhan. Er hyn, credwn nad oedd Stevenson wedi rhagweld cynnwys, neu ymyrraeth Sefydliad y Merched Smuggler’s Cove. Yn dilyn hyn, mae ras yn dechrau i ddarganfod y trysor; gyda llawer o hwyl a sbri yn y cynhyrchiad yma sy’n addas i’r teulu oll.

Mae’r Little Mill Players wedi bodoli ers i’r Theatr gael ei sefydlu ym 1972. Mae’r aelodau yn dod o bob cwr o’r sir a hyd yn oed Sir Gaer. Mae Dilys Megicks wedi bod yn aelod o’r cast ers oddeutu 23 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod yma mae hi wedi portreadu amrywiaeth eang o gymeriadau gan gynnwys un o’r cymeriadau drwg, cyw iâr a Mamgu Ianto. Mae’n mwynhau’r ‘slapstick’ traddodiadol yn ogystal â bod yn gymeriad drwg!

Mae oedrannau'r cast yn amrywio o 7 i 60+ ac mae ei swyddi yn amrywio o reolwyr i waith llaw ymarferol yn ogystal â disgyblion ysgol a myfyrwyr. Eleni rydym yn hynod falch i fod wedi denu nifer o wynebau newydd a gobeithiwn y bydd hyn yn parhau. Mae cyfarwyddwr y sioe Stephen Entwistle wedi bod yn aelod o’r cwmni am dros 15 mlynedd. Cychwynnodd fel y Cyfarwyddwr Cerddorol cyn symud ymlaen i actio ac yna i fod y bos!

Aelod arall o’r cast yw Andrew Tyrrell sydd dros y blynyddoedd wedi perchnogi cymeriad y ‘Dame’. Fe yw comedïwr y cast ac mae ganddo ddylanwad mawr ar bawb!

Mae rhan o’r cast yn teithio o gwmpas rhai o’r trefi lleol, megis Llambed, Aberaeron ac Aberystwyth i hyrwyddo’r cynhyrchiad felly cadwch eich llygaid ar agor am unrhyw for ladron rhuddliw neu hyd yn oed aelodau rhuddliw o Sefydliad y Merched.

Cofiwch ddilyn tudalen Facebook Theatr Felinfach am gyfle i ennill tocynnau i’r cynhyrchiad!

Mae tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ewch ar-lein i www.theatrfelinfach.cymru. Prisiau’r tocynnau yw £9 i oedolion, £8 i bensiynwyr a £6 i blant.

23/01/2019