Bob hyn a hyn, mae adegau mewn bywyd sydd angen eu cofio, eu nodi a’u coffáu. Ar gyfer rhai o’r rhain, gallai fod yn addas gwneud rhywbeth sy’n fwy hirhoedlog na rhoi carden neu flodau. Wrth siarad ar ran y Tîm Llwybrau Cyhoeddus, dywedodd Eifion Jones: “Rydym yn cael ceisiadau cyson i osod meinciau coffa ar hyd llwybrau’r sir. Tra bod ambell i lecyn sy’n gweddu ar gyfer hyn a lle byddai’n ddefnyddiol cael mainc, ar y cyfan gall rhywbeth ffurfiol fel mainc fod yn anaddas gan darfu ar ein tirwedd wyllt a diarffordd.” Gyda hyn mewn golwg, mae’r tîm wedi lansio cynllun ‘Cefnogi Clwydi’.

Daeth y syniad i fod ar ôl i aelod o'r cyhoedd gysylltu i weld a allai ‘fabwysiadu’ llwybr fel rhodd unigryw ac anarferol ar achlysur priodas ffrindiau agos. Mae’r pâr yn gerddwyr brwd sy’n ymweld â Cheredigion yn rheolaidd i ddefnyddio’r rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus ac roedd eu ffrind creadigol yn credu y byddai gwneud cyfraniad i gynnal y llwybrau yn ffordd addas o nodi’r diwrnod arbennig. Nid oedd yn rhywbeth a oedd wedi’i wneud yng Ngheredigion o’r blaen, ond roedd yn drueni gwrthod y cyfle i wneud gwaith na fyddai wedi bod yn bosib ar y pryd, efallai, heb y rhodd hon. Awgrymodd y tîm y byddai modd prynu clwyd i gerddwyr ar Lwybr yr Arfordir yn lle hen gât mochyn a oedd wedi gweld dyddiau gwell.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: "Gall amnewid syml fel hyn ganiatáu mynediad i fwy o bobl yn unol ag ymrwymiad Cyngor Sir Ceredigion i ddarparu'r mynediad lleiaf cyfyngol lle bynnag y bo'n bosibl. Mae syniad arloesol y tîm o lansio'r cynllun cefnogi yn ffordd wych i bobl gyfrannu at y rhwydwaith Hawliau Tramwy mewn ffordd unigryw ac arbennig tra bod y tîm a'i wirfoddolwyr yn gallu parhau i drwsio a diogelu llwybr yr arfordir; gwneud eu gorau i'w wneud yn addas i unrhyw un sydd am fwynhau ein golygfeydd bendigedig o gefn gwlad."

Saif y glwyd ar Lwybr yr Arfordir gan edrych dros Ynys Lochtyn, ac fe’i gosodwyd yno gan Wirfoddolwyr y Llwybrau Cyhoeddus. Mae’n cynnig llecyn trawiadol i’r pâr priod ymweld ag ef ar eu teithiau cerdded a hynny er mwyn gweld eitem benodol maen nhw wedi cyfrannu ato. Hefyd mae’n rhywbeth a fydd yn eu hatgoffa o’u diwrnod arbennig.

Os ydych yn chwilio am ffordd o nodi achlysur, o gofio am anwylyd, o hyrwyddo eich busnes neu’n chwilio am rodd wahanol, gallwch ystyried cyfrannu at nodwedd neu ddarn o’r llwybr. Nid yw’r cynllun wedi’i gyfyngu i glwydi yn unig ac mae’n cynnwys arwyddbyst, pontydd a grisiau, i’w trafod a’u cytuno gyda’r tîm Llwybrau Cyhoeddus. Gallai’r rhain fod ar lwybr ger eich cartref neu ar un sydd ag arwyddocâd arbennig i rywun, neu’n wir ar lwybr eiconig Arfordir Ceredigion. Gellir gosod plac ar yr eitem gyda geiriau priodol sy’n cydnabod y rhodd, a hynny fel rhan o’r broses o osod yr eitem.

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â Jill Lowry, Swyddog Mynediad Cymunedol, drwy e-bostio Jill.Lowry@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 574140.

17/09/2019