Heddiw, mae Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol newydd o wasanaethau maethu’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, yn lansio ymgyrch i gael mwy o ofalwyr maeth. Ei nod yw cael effaith gadarnhaol ar ddyfodol plant a phobl ifanc a denu rhai o'r 39% o oedolion yng Nghymru sydd wedi ystyried bod yn ofalwr maeth.

Yng Nghymru, mae unrhyw blentyn y mae angen gofalwr maeth arno yng ngofal ei Awdurdod Lleol, a'r gobaith yw y bydd yr ymgyrch newydd hon yn galluogi Ceredigion a'r 21 o dimau maethu nid-er-elw eraill mewn awdurdodau lleol i gynyddu nifer y gofalwyr sydd eu hangen i helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan mai hynny yw’r peth iawn ar eu cyfer.

Gall helpu plant i aros yn eu cymuned leol fod o fudd mawr i blentyn, gan ganiatáu iddo gadw mewn cysylltiad â'i ffrindiau, ei ysgol, a chynnal ei ymdeimlad o hunaniaeth, meithrin ei hyder a lleihau pryder.

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Borth Ceredigion, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant. Dywedodd: "Mae gan bob plentyn hawl i ffynnu, ac mae angen i fwy o bobl fel chi agor eu drysau a'u croesawu. Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu plant lleol sydd angen rhywun i wrando arnynt, gofalu amdanynt, a chredu ynddynt; plant sydd angen rhywun ar eu hochr nhw, rhywun i'w caru. Yma yng Ngheredigion, mae tîm maethu’r Awdurdod Lleol yn barod i'ch helpu chi i fod y person hwnnw y mae plentyn ei angen yn ei fywyd."

Mae angen recriwtio oddeutu 550 o ofalwyr maeth a theuluoedd newydd ledled Cymru bob blwyddyn i ateb y galw o ran nifer y plant y mae angen gofal a chymorth arnynt ac i gymryd lle gofalwyr sy'n ymddeol neu'n darparu cartref parhaol i blant.      

Wrth lansio Maethu Cymru ym mis Gorffennaf, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS: "Rwy'n gwybod o wrando ar ofalwyr maeth pa mor werth chweil y gall maethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy'n derbyn gofal ac yn caniatáu i dimau maethu a recriwtio mewn Awdurdodau Lleol ledled Cymru feddwl yn fwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli mantais eu harbenigedd lleol penodol. 

Nid oes yr un dau blentyn yr un fath, ac felly nid yw'r gofal maeth sydd ei angen arnynt chwaith. Nid oes y fath beth â theulu maeth 'nodweddiadol'; p’un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu’n rhentu, p’un a ydych yn briod neu’n sengl. Beth bynnag fo'ch rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc sydd angen rhywun i ofalu amdanynt a'u cefnogi.

Mae unrhyw un sy'n maethu gyda Maethu Cymru Ceredigion yn gwneud hynny'n ddiogel gan wybod, lle bynnag y bydd eu dyfodol maethu yn mynd â nhw, y bydd y tîm wrth eu hochr bob cam o'r ffordd gyda'r holl arbenigedd, cyngor a hyfforddiant sydd eu hangen i gefnogi eu taith faethu. 

I gael gwybod mwy am faethu yng Ngheredigion, ewch i www.ceredigion.fosterwales.gov.wales neu ffoniwch 01545 574000 am ragor o wybodaeth.

20/09/2021