Mae Ceredigion Actif wedi meddwl am ffordd newydd o sicrhau bod aelodau’n barod i ddychwelyd i chwaraeon pan ddaw’r amser. Mae tîm Pobl Ifanc Egnïol wedi cydweithio â thros 20 o glybiau chwaraeon cymunedol yng Ngheredigion yn rhan o ymgyrch i gynhyrchu fideos o weithgareddau y gall trigolion eu gwneud gartref.

Yr hyn y mae’r clybiau’n ei wneud yw recordio cyflwyniad a gweithgareddau sy’n benodol i chwaraeon eu clwb. Mae Tîm Ceredigion Actif wedi bod yn golygu ac yn ychwanegu isdeitlau i’r fideos er mwyn eu gwneud yn ddwyieithog. Mae’r rhain wedi cael eu rhannu ar wefannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter, ac Instagram lle cyfeiriwyd defnyddwyr at sianel YouTube Ceredigion Actif. Yma, gallant gael mynediad at fideos y clwb a llawer mwy o’r rhestr chwarae sy’n cynnwys gwersi i ddisgyblion ysgol, diwrnodau mabolgampau ar-lein, fideos ffitrwydd a dosbarthiadau’r cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff. Mae’r fideos wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi cyrraedd ymhell ac agos drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae tîm Pobl Ifanc Egnïol yn gobeithio y bydd aelodau’r clwb yn gallu parhau i gysylltu â’u clybiau ar-lein wrth iddynt aros i ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith eto. Maent hefyd yn gobeithio denu aelodau newydd a all weld y gweithgareddau ac a all fod eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Elen James yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar, Lles Cymunedol a Dysgu. Dywedodd: “Ein nod yw annog holl drigolion Ceredigion i fod yn egnïol yn ystod y cyfnod anodd hwn, yn enwedig wrth i ni aros am ganllawiau ynghylch dychwelyd i hyfforddi a chymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol. Yn ogystal â gwella eich iechyd corfforol a’ch ffitrwydd, mae gwneud rhywbeth egnïol yn cael effaith gadarnhaol ar eich lles meddyliol. Gellir gwneud llawer o’r gweithgareddau hyn dan do neu yn yr awyr agored gydag ychydig iawn o offer. Rydym yn falch iawn o’r ymateb rydym wedi ei gael gan y clybiau a byddem yn annog eraill i gymryd rhan.”

Mae ystod o weithgareddau ar gael i roi cynnig arnynt gan gynnwys gemau tîm megis rygbi, pêl-droed a hoci; chwaraeon unigol megis dawnsio a saethyddiaeth, a gweithgareddau cynhwysol gan Glwb Pêl-fasged Aberystwyth a Chlwb y Llewod yn Aberteifi. Bydd dau glwb gwahanol yn cyhoeddi clipiau bob wythnos er mwyn rhoi cyfle i bawb roi cynnig ar y gwahanol chwaraeon gyda'r gobaith y bydd trigolion yn mwynhau'r gweithgareddau hyn ac yn cymryd rhan gyda'u teuluoedd. Os hoffai unrhyw glybiau fod yn rhan o'r rhaglen hon, anfonwch e-bost at Ceredigionactif@ceredigion.gov.uk.

Mae'r ymgyrch hon yn cyd-fynd â lansiad grant newydd Chwaraeon Cymru, sef ‘Cronfa Cymru Actif’. Mae Chwaraeon Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion, bellach yn derbyn ceisiadau am gyllid i helpu clybiau chwaraeon cymunedol. Nod y grant yw amddiffyn clybiau chwaraeon cymunedol yn ystod y cyfnod anodd hwn a hefyd eu galluogi i baratoi i ailagor pan fydd cyfyngiadau’r cyfnod clo yn cael eu llacio.

Dywedodd Steven Jones, Rheolwr Cymunedau Actif: “Mae’r grant hwn yn achubiaeth i nifer o glybiau chwaraeon nad ydynt wedi gallu gweithredu dros y 3 mis diwethaf. Rwy’n argymell yn gryf y dylai pob clwb edrych ar y wefan i weld y meini prawf ar https://www.chwaraeon.cymru/cronfacymruactif/ neu anfonwch e-bost atom ni ar Ceredigionactif@ceredigion.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth arnoch chi. Rydym ni yng Ngheredigion Actif yn gallu cynnig cyngor a chymorth i glybiau drwy’r broses ymgeisio.”

 

 

17/07/2020