Lansiwyd Cynllun Peilot Cymraeg Gwaith Cyngor Sir Ceredigion mewn digwyddiad arbennig ar ddydd Gwener, 10 Awst yn Shwmae Caerdydd yn Adeilad y Pierhead ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Aeth grŵp o ddysgwyr y Cyngor ar daith i’r Eisteddfod i fynychu’r lansiad.

Cynllun yw hwn i benodi Huw Owen, Swyddog Hyfforddiant Cymraeg Gwaith, a fydd yn cynllunio a darparu rhaglen o gyrsiau dwys a chyfleoedd dysgu anffurfiol wedi’u cymhwyso at anghenion penodol staff y Cyngor. Cyllidir y cynllun gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros Safonau’r Gymraeg, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Yr ydym, fel Cyngor, yn falch o weld y datblygiad newydd yma yn y Cynllun Cymraeg Gwaith. Bydd cael Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith yn fewnol yn y Cyngor yn ddull gwych o hyrwyddo taith ein dysgwyr tuag at ruglder. Bydd hefyd yn cryfhau darpariaeth Gymraeg y Cyngor o fewn y gweithle ac wrth ymwneud â’r cyhoedd.”

Soniodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, am bwysigrwydd darpariaeth Cymraeg Gwaith i waith y Ganolfan, “Mae’r prosiect Cymraeg Gwaith yn rhan bwysig o waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae’r gwaith a wnaed yn barod gan Gyngor Sir Ceredigion wedi gosod sylfaen ardderchog ar gyfer y cam nesaf, cyffrous hwn. Edrychwn ymlaen at weld y gwaith yn datblygu – mae’n amlwg o’r galw sydd eisoes wedi bod o blith staff y Cyngor am y dosbarthiadau dwys y bydd y Swyddog Hyfforddi’n brysur iawn pan fydd y tymor dysgu’n dechrau ym mis Medi!”

Trefnwyd y digwyddiad mewn cydweithrediad â lansiad Gwasg Gomer o lyfr D. Geraint Lewis, DIY Welsh, sef canllaw i fyfyrwyr o bob oedran ar sut i strwythuro brawddegau Cymraeg.

28/08/2018