Mae’r cynllun peilot diweddara ar gyfer hybu ymddygiad positif wrth gyflwyno gwastraff yn Aberystwyth wedi’i lansio.

Mae’r cynllun yn weledol yn Aberystwyth gan fod gwybodaeth am gasgliadau gwastraff yn cael ei arddangos ar 13 stryd yng nghanol y dref. Maent yn hysbysu trigolion pa wastraff y dylid ei gyflwyno ar ba ddiwrnodau.

Dyma’r strydoedd:

  • Stryd y Tollty  
  • Stryd y Ro
  • Y Stryd Uchel
  • Heol y Bont
  • Stryd Powell                
  • Stryd Sior
  • Y Lon Gefn
  • Tan y Cae
  • Morfa Mawr
  • Stryd Portland
  • Ffordd Portland
  • Y Stryd Newydd
  • Stryd y Gorfforaeth

Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r aelod Cabinet dros Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn ogystal â Thai. Dywedodd: “Rydym yn gweld hwn yn fodd ymarferol ac effeithiol o ddelio gyda materion hir dymor o gyflwyno gwastraff yng nghanol tref Aberystwyth. Mae'n darparu gwybodaeth i atgoffa trigolion pa ddiwrnodau i gyflwyno eu gwastraff.

Mae'r treial yn rhan o Caru Aber, a'r Caru Ceredigion ehangach, lle mae'r Cyngor yn edrych i weithio gyda chymunedau lleol i fynd i'r afael â materion sy'n peri pryder neu'n bwysig iddynt. Mae'r dull arloesol hwn yn enghraifft arall o gamau rhagweithiol cadarnhaol y mae'r Cyngor yn eu cymryd. Y gobaith yw y bydd holl drigolion canol y dref yn chwarae eu rhan trwy gadw Aberystwyth yn lân.”

Mae'r fenter ddiweddaraf hon yn datblygu ar adborth a phrofiad o dri treial arall a gynhaliwyd yng Ngheredigion. Bydd llwyddiant y treial yn cael ei fonitro'n barhaus a'i adolygu i adlewyrchu'r profiad.

20/02/2020