Mae bod yn garedig yn bwysicach nag erioed erbyn hyn, a dyna pam y lansiwyd calendr caredigrwydd yn rhan o’r ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd yng Ngheredigion.
Ymgyrch ranbarthol yw Cysylltu â Charedigrwydd a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2020 ar draws Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion. Nod yr ymgyrch yw creu mwy o ddealltwriaeth ynghylch buddion caredigrwydd a’i effaith arnom ni ein hunain ac eraill yn ein cymuned.
Yn rhan o’r calendr caredigrwydd, gofynnir i aelodau’r cyhoedd anfon eu ffotograffau, gwaith celf, neu hyd yn oed ryddiaith neu farddoniaeth, neu unrhyw beth sy’n cynrychioli caredigrwydd a’i rym. Yna, caiff y darnau a ddewisir eu cynnwys yn y calendr ar gyfer mis penodol yn 2021.
Gellir anfon ceisiadau drwy’r post neu drwy e-bost, a rhaid eu cyflwyno erbyn hanner dydd 22 Tachwedd 2020. Mae’r manylion llawn ar gael yma: https://cysylltuacharedigrwydd.cymru/calendr/
Dywedodd Cyra Shimell, “Gobeithiwn y bydd y calendr yn rywfaint o hwyl yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Bydd yn ddiddorol gweld gwahanol ddehongliadau pobl o’r hyn y mae caredigrwydd yn ei olygu iddyn nhw. Byddwch mor greadigol ag yr hoffech!
Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â’r ymgyrch hon, ewch i https://cysylltuacharedigrwydd.cymru/. Gallwch hefyd fynd i’r dudalen Facebook 'Cysylltu â Charedigrwydd Ceredigion – Connect to Kindness Ceredigion' i ddarllen rhai straeon am weithredoedd caredig.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â Cyra Shimell, Cysylltydd Cymunedol ynghyd â Datblygiad, ar cyra.shimell@ceredigion.gov.uk.
Rhannwch y neges, gan fod y cyfan yn dechrau gydag un peron – CHI!
27/10/2020