Er mwyn ateb y galw yn lleol am gyfleoedd i ymarfer a defnyddio’r Gymraeg, mae bore coffi newydd yn cael ei lansio i bobl ardal Llechryd yn Ne Ceredigion.

Bydd Cered yn lansio’r bore coffi Cymraeg newydd yn Neuadd y Cwrwgl Llechryd ar ddydd Mercher 12 Hydref am 11yb. Bydd y bore coffi yn cael ei gynnal bob yn ail a phedwerydd dydd Mercher y mis hyd at y Nadolig ac bydd yn rhad ac am ddim i fynychu.  

Bydd y bore coffi yn rhoi cyfle cyson i siaradwyr Cymraeg lleol o bob lefel, gan gynnwys dysgwyr Cymraeg brwd ddod at ei gilydd i siarad Cymraeg. Bydd yn cyfle gwych i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar.

Dywedodd y Cynghorydd lleol Amanda Edwards: “Mae’n hollbwysig bod pobl sy’n dysgu Cymraeg yn cael cyfle i’w hymarfer a’i sirad y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg wedi codi’n aruthrol, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae agor y bore coffi yn Llechryd yn gyfle gwych i bobl gymdeithasu yn Gymraeg. Mae croeso i bawb - dysgwyr Cymraeg, siaradwyr Cymraeg rhugl a rhai sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg. Plîs dewch y llu!”

Bydd y bore coffi yn Llechryd yn eistedd ochr yn ochr â boreau coffi eraill Cered ym Mhenparcau, Llandysul ac ar Zoom sydd wedi bod yn boblogaidd iawn yn ddiweddar.

Dywedodd Arweinydd Tîm Cered, Steffan Rees: “Mae ein bore coffi ym Mhenparcau wedi bod yn boblogaidd iawn gan ddysgwyr a siaradwyr rhugl dros y misoedd diwethaf a’n nod yw adeiladu ar lwyddiant yr hyn sydd gennym yno gyda boreau coffi tebyg mewn rhannau eraill o’r sir. Pan gysylltodd Amanda â ni i weld a fyddai gennym ddiddordeb mewn datblygu rhywbeth yn Llechryd, fe wnaethon ni neidio ar y cyfle ac rydym yn gyffrous iawn i gwrdd a dod i adnabod pawb yn Neuadd y Cwrwgl dros y misoedd nesaf.”

Oes os gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Rhodri Francis o Cered ar Rhodri.francis@ceredigion.gov.uk

30/09/2022