Ydych chi hoffi canu hwiangerddi Cymraeg? Ydych chi’n rhiant neu’n warchodwr i blantos bach? Mae ap newydd sbon yn cael ei lansio’r wythnos nesaf yn Eisteddfod yr Urdd a fydd wrth eich bodd.

Mae ap Bys a Bawd wedi cael ei seilio ar lyfr poblogaidd Falyri Jenkins, Bys a Bawd, a gyhoeddwyd gan Mudiad Meithrin yn 1991.

O chwarae’r ap ar eich ffôn neu lechen gallwch weld cymeriad bach lliwgar, Bedo yn canu hwiangerddi adnabyddus - Ble mae Bawdyn, Troi ein Dwylo, Pen Ysgwyddau Coesau Traed, a llawer mwy yn ogystal ag animeiddio unigryw i hwiangerddi gwahanol. Drwy gyfeirio’r ffôn neu lechen gallwch osod Bedo (a chymeriadau eraill) i ganu a dawnsio ar gelfi o amgylch eich ystafell drwy realiti estynedig.

Gwilym Bowen Rhys yw’r llais a glywir a chynhyrchwyd yr ap gan Galactig mewn cydweithrediad â Cered - Menter Iaith Ceredigion, dan nawdd grant Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Wasanaethau Plant a Diwylliant, “Braf yw gweld ap Cymraeg wedi cael ei ddatblygu ar y cyd rhwng Cered a Galactig. Bydd yr ap yn sicrhau bod plant yn cael mynediad at ganeuon a hwiangerddi Cymraeg ble bynnag y bont.”

Lansir yr ap ym Mhabell Mudiad Meithrin am 3.00yp, dydd Mawrth, 29 Mai, yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, Maes y Sioe, Llanelwedd. Croeso i chi ddod draw i gwrdd â Bedo ac i ymuno yn y canu.

Mae ap Bys a Bawd ar gael ar hyn o bryd am ddim o’r Apple App Store ac mae’r fersiwn gyfredol yn addas i’w chwarae ar systemau Apple IOS.9 ac uwch.

Am fwy o fanylion a datblygiadau cysylltwch â Llinos Hallgarth, Swyddog Datblygu, Cered ar 01545 572358, neu ewch i wefan Cered, sy’n rhan o Gyngor Sir Ceredigion.

 

23/05/2018