Ar 16 Ebrill 2019, lansiwyd cynllun lleihau plastig a phecynnau yng Ngheredigion. Mae’r cynllun yn cael ei gyflawni gan y Tîm Cadwraeth a Thîm Rheoli Gwastraff Gyngor Sir Ceredigion ynghyd ag elusen amgylcheddol wirfoddol Cymru o’r enw Cadwch Gymru’n Daclus..

Sefydlwyd y cynllun gyda chyllid o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth a hefyd i geisio lleihau'r swmp cynyddol o blastig sy'n mynd i mewn i'r amgylchedd morol. Y nod yw annog busnesau, yn enwedig caffis a siopau prydau parod, ond hefyd sefydliadau eraill gan gynnwys ysgolion i ailfeddwl am eu defnydd o blastig a lleihau eu defnydd o ddeunydd pacio a phlastig.

Mae gan y cynllun wahanol dystysgrifau achredu a gaiff eu rhoi i fusnesau yn dibynnu ar y camau a gymerwyd. Mae'r tystysgrifau achredu cyntaf wedi'u dyfarnu i berchnogion 'The Beach Hut' ac ‘Caffi Patio’ yn Llangrannog. Roedd y ddau fusnes yn ymrwymedig i leihau eu deunydd pacio, darparu deunydd pacio cynaliadwy, peidio cynnig toddiant saws un-tro a rhoi ail-lenwad dŵr am ddim i gwsmeriaid.

Dywedodd Melanie Heath, Swyddog Ardal Forol Warchodedig Bae Ceredigion, “Treialwyd prosiect lleihau sbwriel morol yn Llangrannog yn 2016 mewn cydweithrediad â Cadwch Gymru’n Daclus. Bu’r prosiect peilot hwn yn llwyddiannus, ac o ganlyniad rydym bellach wedi derbyn cyllid gan CNC i gyflwyno cynllun achredu i annog busnesau a sefydliadau eraill ledled Ceredigion i leihau eu defnydd o blasting a phecynnau.”

Dywedodd Linda Ashton, Uwch Swyddog Partneriaeth, Mynediad a Hamdden, Cyfoeth Naturiol Cymru "Mae Bae Ceredigion yn Ardal Cadwraeth Arbennig sy'n gartref i amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid morol fel llamidyddion, dolffiniaid trwyn potel a morloi llwydion. Mae hefyd yn le gwych i bobl ymweld ac i fwynhau'r awyr agored. Mae'n wych gweld prosiectau fel hyn sy'n helpu mwy o bobl i ddysgu am yr amgylchedd morol ac yn annog pobl i newid eu hymddygiad yn yr hir dymor a fydd yn helpu lleihau maint o wastraff plastig yng Nghymru.”

Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am ddyfarniad achredu, cysylltwch â melanie.heath2@ceredigion.gov.uk neu Alison.Heal@ceredigion.gov.uk.

26/04/2019