Pwy sy’n hoffi gwneud jig-so? Yr her o wagio bocsed o ddarnau amrywiol, bob siâp a lliw ar lawr, a dechrau’r dasg o greu un darlun mawr ohonynt?

Ble mae rhywun yn dechrau? Yn y canol? Ar yr ymylon? Gyda’r siapau mwyaf heriol? Ac wedyn, faint o amser mae rhywun yn ei dreulio’n gwneud y pos tair mil o ddarnau - wythnos, mis neu flwyddyn?

Dywedodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach, “Weithiau, rwy’n gweld ein gwaith yn Theatr Felinfach fel jig-so anferth - y darnau yw rhaglen o berfformiadau proffesiynol, rhaglen eang o gyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion i gymryd rhan mewn gweithgaredd greadigol, ddiwylliannol, gofod a lle pwrpasol, tîm o staff profiadol, cefnogaeth ariannol i gynnal y cyfan, ac yn bwysicach na dim, pobl. Pobl i gymryd rhan, i gyfrannu a rhannu.

Mae’r rhaglenni cyfranogol yn dechrau fel jig-so. Ry’ ni’n anelu at greu cyfanwaith yn y diwedd, ond mae’r wythnosau o ddod at ein gilydd, i ddatblygu themâu, i ddatblygu darnau o waith dawns, drama neu theatr yn gwmws fel y jig-so. Dyma drio rhoi darnau at ei gilydd, adnabod y darnau cyffredin, adnabod y darnau heriol a cholli hyder neu amynedd, neu’r ddau os oes darnau’n mynd ar goll!”

Jig-so mwyaf Theatr Felinfach yn flynyddol yw Pantomeim Nadolig Cwmni Actorion Felinfach, sydd erbyn hyn yn 51 oed, ac yn hŷn nag adeilad y theatr! 

Pan ddaw’r sioe liwgar, swnllyd a hwyliog i’r llwyfan ym mis Rhagfyr, mae’n benllanw ar fisoedd o gynllunio, datblygu stori, sgriptio, golygu ac ymarfer. Caiff y cyfan ei arwain gan dîm creadigol y theatr, ond mae’r criw sgriptio, yr actorion a’r dawnswyr yn gyfranogwyr o’r gymuned sy’n rhoi eu hamser, egni a’u creadigrwydd i greu perfformiad o bantomeim gwreiddiol Cymraeg sy’n denu 2,000 o gynulleidfaoedd ar draws wythnos o sioeau. 

Bydd sioe eleni yn arwain y gynulleidfa at lwybrau Cors Caron a hynny ar drothwy un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, a fydd yn ymweld â Thregaron yn 2020. Mewn pantomeim, rhaid cael gwrthdaro rhwng y da a’r drwg, rhaid cael dwli, canu a digon o ddawnsio a rhaid iddo fod yn wledd i’r llygaid. Gall y cast sicrhau y bydd y darnau hynny i gyd yn jig-so enwog Panto Felinfach! 

Bydd ‘O Dan y Gors a’r Orsedd’ yn rhedeg o 7 tan 14 Rhagfyr. Prynwch eich tocynnau o’r Swyddfa Docynnau drwy ffonio 01570 470697 neu ewch ar-lein i theatrfelinfach.cymru. Mae’r tocynnau yn £9 i oedolion, £8 i bensiynwyr ac aelodau a £6 i fyfyrwyr, pobl ifanc a phlant.

13/11/2019