Mae Hysbysiadau Gwella Mangre pedwar lleoliad cludfwyd yn Aberystwyth wedi cael eu terfynu ar ôl iddynt gael eu monitro gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Cyflwynwyd Hysbysiadau Gwella Mangre yn ddiweddar i Domino’s Pizza, Hot Dumplings, Hollywood Pizza a Star Fried Chicken yn Aberystwyth oherwydd diffyg cydymffurfiaeth honedig â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Mae’r hysbysiadau wedi cael eu terfynu ar ôl i waith monitro gadarnhau fod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo gan aelodau’r staff wrth iddynt weithio yn yr ardal gyhoeddus neu o fewn pellter agos â staff eraill.

Gall lleoliadau nad ydynt yn cydymffurfio â’r Hysbysiad Gwella Mangre gael Hysbysiad Cau Mangre, Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000, neu’r ddau.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor trwy ddilyn y ddolen hon: Cefnogi Economi Ceredigion.

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Diogelu’r Cyhoedd ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

11/12/2020