Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i fusnes lletygarwch yn Llwyncelyn wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd yn rhan o reoliadau’r coronafeirws.

Mae Hysbysiad Gwella Mangre wedi cael ei gyflwyno i Siop Fferm Moody Cow Farm Shop, Llwyncelyn, Aberaeron gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Yn rhan o’r Hysbysiad Gwella Mangre, mae’n rhaid sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl yn y fangre, darparu digon o wybodaeth i'r rhai sy'n mynd i mewn i'r safle ac yn gweithio arno ynghylch sut i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws, cymryd camau rhesymol, gan gynnwys cyfyngu ar gyswllt wyneb yn wyneb agos, sicrhau bod gwybodaeth cyswllt cwsmeriaid yn gywir a chynnal hylendid, rheoli'r defnydd o gyfleusterau a rennir a darparu a sicrhau bod gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio gan bob un sy’n gweithio yn y mangre.

Bydd yn rhaid i’r mesurau hyn gael eu cyflwyno erbyn 15:00 ar 13 Rhagfyr 2020. Gellir dod o hyd i’r hysbysiad llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, o dan Hysbysiadau Gwelliant a Chau.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor o dan Cefnogi Economi Ceredigion.

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

11/12/2020