Mae siop barbwr yng Ngheredigion wedi cael hysbysiad gwahardd ar ôl parhau i ddefnyddio ei safle i ddarparu gwasanaethau.

Roedd hynny er gwaethaf y gwaharddiad i bob siop barbwr a thrin gwallt i beidio ag agor yn ystod y cyfnod dan gyfyngiadau symud.

Gwelodd swyddog o dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion, nad oedd ar ddyletswydd ar y pryd, wasanaethau barbwr yn cael eu darparu yn y sir ddydd Sul 3 Mai, a hynny yng ngolwg llawn y cyhoedd. Mae wedi bod yn ofynnol i siopau barbwr gau oddi ar ddiwedd mis Mawrth pan ddechreuodd y cyfnod dan gyfyngiadau symud. Mae archwiliadau gan staff y Cyngor wedi cadarnhau bod y rheolau hynny wedi cael eu dilyn yn helaeth ledled y sector.

Mae’r cyfyngiadau yn golygu ei bod yn ofynnol i fusnesau tebyg i siopau barbwr ‘roi’r gorau i gynnal y busnes hwnnw neu ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.’ Yr unig eithriad i’r rheol hon yw pan fydd Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol yn gofyn i fusnesau barhau i weithredu.

Bydd unrhyw un a fydd yn gyfrifol am fusnes ac nad yw’n cydymffurfio â'r gofyniad hwn, heb reswm rhesymol, yn cyflawni trosedd y gellir ei gosbi â dirwy ddiderfyn. Bydd camau gorfodi’n cael eu hystyried yn erbyn unrhyw fusnes nad yw’n cydymffurfio â'i rwymedigaethau cyfreithiol, gan gynnwys gosod dirwyon ac adennill costau.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion yn darparu amrywiaeth o grantiau a dulliau eraill o gymorth i fusnesau lleol yn ystod y cyfnod hwn dan gyfyngiadau symud.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth hwnnw yma

07/05/2020