Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Llywodraethau lleol etc.) (Cymru) 2020 yn darparu pwerau i awdurdodau lleol yng Nghymru reoli mangreoedd, digwyddiadau a lleoliadau cyhoeddus yn eu hardaloedd er mwyn helpu i reoli’r coronafeirws yn eu hardaloedd. Mae hyn yn cynnwys cau mangreoedd a lleoliadau cyhoeddus ac atal digwyddiadau, lle bo angen.

O ganlyniad i'r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd yn ardal Aberteifi, mae Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i ddefnyddio ei bwerau yn unol â’r Rheoliadau uchod a chyflwyno Hysbysiad Cyfarwyddyd Mangre i gau’r lleoliadau canlynol:

• Red Lion Inn, Pwllhai, Aberteifi, SA43 1DD
• Bell Hotel, Pendre, Aberteifi, SA43 1JL

Mae sancsiynau tebyg hefyd yn cael eu hystyried mewn perthynas â nifer o fangreoedd eraill yn y sir.

Wrth wneud hyn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried bod yr amodau perthnasol o ran iechyd y cyhoedd, fel yr amlinellir yn y Rheoliadau, wedi’u bodloni; ac felly mae’n ofynnol i'r mangreoedd gau tan na fydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd wedi’u bodloni mwyach.

Mae’r amodau o ran iechyd y cyhoedd yn cynnwys:

1. bod y cyfarwyddyd yn ymateb i fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd
2. bod y cyfarwyddyd yn angenrheidiol at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint y coronafeirws yn ardal yr awdurdod lleol, a
3. bod y gwaharddiadau, y gofynion neu’r cyfyngiadau a osodir gan y cyfarwyddyd yn ddull cymesur o gyflawni’r diben hwnnw.

Bydd yr Awdurdod yn adolygu a fydd yr amodau hyn o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i gael eu bodloni mewn perthynas â’r Cyfarwyddyd o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y rhoddir y Cyfarwyddyd, ac o leiaf unwaith ymhob cyfnod o 7 niwrnod wedi hynny.

Os bydd yr Awdurdod, yn ystod yr adolygiad, o’r farn nad yw’r amodau o ran iechyd y cyhoedd yn cael eu bodloni mwyach, byddwn yn dirymu'r Cyfarwyddyd. Nid yw hyn yn ein hatal rhag dirymu Cyfarwyddyd ar unrhyw adeg os yw’r awdurdod o’r farn nad yw’r amodau o ran iechyd y cyhoedd yn cael eu bodloni mwyach mewn perthynas â’r Cyfarwyddyd.

Mae swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd, mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys, yn parhau i fonitro a chymryd camau gweithredu lle bo angen i sicrhau bod pob busnes a mangre yn cydymffurfio â rheoliadau COVID-19 (Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020) i reoli, lleihau ac atal y risg o ddod i gysylltiad â COVID-19.

Mae Hysbysiadau Gwella Mangre a Hysbysiadau Cau Mangre eisoes wedi cael eu cyflwyno i nifer o leoliadau eraill yng Ngheredigion yn dilyn methiannau i gydymffurfio â rheoliadau COVID-19 trwy beidio â chynnal pellter cymdeithasol, cadw cofnodion olrhain cysylltiadau cywir neu achosion lle nad yw staff yn gwisgo gorchuddion wyneb, ac ati.

Atgoffir y cyhoedd na ddylent fynd i mewn na chymryd rhan mewn gweithgarwch os ydynt yn teimlo nad yw busnes, lleoliad neu fangre yn sicrhau cydymffurfiaeth, oherwydd mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i reoli’r lledaeniad a helpu i gadw Ceredigion yn ddiogel.

Mae’r coronafeirws yn ffynnu ar gyswllt rhwng pobl. Os ydym am gadw’r feirws hwn o dan reolaeth, mae’n rhaid i bob un ohonom wneud ein rhan i leihau achosion o’r haint.

27/11/2020