Mae tafarn yn Ffostrasol wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000 a Hysbysiad Gwella Mangre ar ôl i gwsmeriaid gael eu darganfod yn yfed y tu mewn i'r adeilad.

Ddydd Gwener, 30 Ebrill 2021, yn rhan o’r gwiriadau yn arwain at benwythnos gŵyl y banc mis Mai, roedd swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Ceredigion yn cynnal patrolau ar y cyd â swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys pan ddaethant o hyd i nifer fach o gwsmeriaid yn yfed y tu mewn i’r Ffostrasol Arms, lle nad oedd y rheolau o ran cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb yn cael eu dilyn.

Dim ond yr wythnos honno y llaciwyd y gofyniad i fusnesau lletygarwch aros ar gau er mwyn caniatáu i fusnesau megis tafarnau ailagor eu hardaloedd yn yr awyr agored. Felly, roedd yn hynod siomedig dod o hyd i fusnes yn diystyru diogelwch y cyhoedd a’r gyfraith yn llwyr drwy ganiatáu i rai o’i gwsmeriaid yfed dan do. O ganlyniad, cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig yn ogystal â Hysbysiad Gwella Mangre a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r busnes roi gwelliannau penodol ar waith er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle. Yn ogystal, mae rhai o’r cwsmeriaid a gafodd eu canfod yn yfed y tu mewn i’r fangre wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £60 gan Heddlu Dyfed-Powys.

Mae’r safle hwn hefyd wedi cael hysbysiad cosb yn flaenorol gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd ym mis Hydref 2020 am dorri rheoliadau COVID-19.

Mae swyddogion o'r Cyngor a'r Heddlu yn parhau i gynnal ymweliadau â safleoedd ledled y Sir ac yn cynnig cymorth a chyngor i fusnesau. Mae'r mwyafrif helaeth o fusnesau yng Ngheredigion yn cydymffurfio â Rheoliadau’r Coronafeirws ac yn darparu amgylchedd diogel i'w cwsmeriaid.

Mae rhagor o wybodaeth am Hysbysiadau Gwella, Cau a Chyfarwyddyd yn ymwneud â’r Coronafeirws ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

 

14/05/2021