Mae Hysbysiad Cau Mangre wedi cael ei derfynu mewn lleoliad cludfwyd yn Aberystwyth wedi i swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion gynnal ail arolygiad.

Rhoddwyd yr Hysbysiad Cau Mangre i G-one, Aberystwyth ar 8 Rhagfyr 2020 o ganlyniad i ddiffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Mae’r hysbysiad wedi cael ei derfynu wedi i swyddogion gael sicrwydd gan y busnes y bydd gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo gan aelodau o’r staff bob amser tra byddant yn gweithio yn yr ardal gyhoeddus.

Bydd yr Hysbysiad Gwella Mangre yn parhau mewn grym ar gyfer G-one. Bydd y safle yn cael ei fonitro hyd nes y bydd y Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd yn fodlon fod y gwelliannau gofal yn cael eu cynnal.

Gall lleoliadau nad ydynt yn cydymffurfio â’r Hysbysiad Gwella Mangre gael Hysbysiad Cau Mangre, Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000, neu’r ddau.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor trwy ddilyn y ddolen hon: Cefnogi Economi Ceredigion

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

09/12/2020