Mae bar yn Aberystwyth wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £1,000 a Hysbysiad Cau Mangre ar ôl i guddfan yfed danddaearol gael ei datgelu ar noson gêm rygbi Ffrainc yn erbyn Cymru yn y Chwe Gwlad.

Roedd swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Ceredigion yn cynnal patrolau arferol yn y sir pan ddaethant o hyd i ystafell dros dro wedi’i gosod yn seler Bar 46 ar noson 20 Mawrth 2021. Roedd y seler yn cael ei defnyddio gan rai o weithwyr y bar a’u ffrindiau.

Aeth y swyddogion i mewn i'r seler gan ddefnyddio eu pwerau o dan reoliadau cyfyngiadau Coronafeirws a dod o hyd i’r grŵp yn eistedd o gwmpas bwrdd a oedd yn llawn gwydrau yfed, yn ysmygu ac yn gwylio’r sylwebaeth wedi’r gêm ar deledu a oedd wedi cael ei osod yn yr ystafell. Roedd yna fainc i eistedd, soffa, bwrdd a stolion bar yn yr ystafell yn y seler.

O ganlyniad, mae prif ardal y bar a’r seler wedi cael Hysbysiad Cau Mangre, a bydd yn parhau ynghau am 28 diwrnod, neu hyd nes y gellir arddangos eu bod wedi gwneud gwelliannau a’u bod yn bodloni gofynion rheoliadau’r Coronafeirws.

Mae’n ofynnol i dafarnau a bariau barhau ynghau yn ystod Lefel Rhybudd 4 a pheidio â chynnal busnes ar eu safle. Gellir gwerthu bwyd i'w fwyta oddi ar y safle, er enghraifft cludfwyd a dosbarthu bwyd, ond ni ellir ei fwyta ar y safle.

Mae’r cyfyngiadau hefyd yn atal unigolion o aelwydydd gwahanol rhag cwrdd dan do, oni bai fod yna eithriad perthnasol, ac yn yr achos hwnnw dim ond i'r graddau ei fod yn rhesymol angenrheidiol i gwrdd â phobl eraill. Yn unol â’r cyfyngiadau cyfredol, ni ystyrir bod cwrdd mewn bar yn rhesymol angenrheidiol, na chwaith yng nghyd-destun yr aberth a wneir yn ddyddiol gan y rhan fwyaf o drigolion Ceredigion.

Mae arolygiadau monitro wedi dangos fod y rhan fwyaf o fusnesau lletygarwch Ceredigion yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau a osodwyd arnynt yn ystod y pandemig. Bydd tîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i gymryd camau gweithredu yn erbyn busnesau nad ydynt yn cydymffurfio â chyfyngiadau’r Coronafeirws. Tra mai’r dull a ffefrir yw rhoi cyngor a chanllawiau i fusnesau i sicrhau cydymffurfedd, bydd camau gorfodi priodol yn cael eu rhoi ar waith lle bo achosion difrifol neu amlwg o dorri’r rheolau yn cael eu darganfod.

Ymatebodd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys i'r digwyddiad ar y safle'r noson honno hefyd, gan helpu i nodi’r unigolion a oedd yn bresennol. Dywedodd yr Arolygydd Gareth Earp o Heddlu Dyfed-Powys: “Galwyd yr heddlu i'r lleoliad yn dilyn y darganfyddiad gan y Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd. Rydym yn cefnogi’r Awdurdod Lleol yn llwyr ar y mater hwn. Mae’r math hwn o ddifaterwch anghyfrifol i gyfreithiau’r coronafeirws yn peri risg mawr o drosglwyddiad ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm, ynghyd â’r cyhoedd ehangach y byddant yn dod i gysylltiad â hwy wedi hynny.”

Daeth Hysbysiad Cau Mangre Bar 46 i rym ar 25 Mawrth 2021 am 13:40. Gellir dod o hyd i'r hysbysiad ar dudalennau We y Coronafeirws, o dan Hysbysiadau Gwelliant a Chau Coronafeirws.

29/03/2021