Mae tafarn yng Ngheredigion wedi cael dirwy o £2,000 a Hysbysiad Cau Mangre ar ôl methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwella Mangre a thorri rheoliadau Covid-19.

Ddydd Llun 24 Mai 2021, bu swyddogion Tîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion o amgylch y sir fel rhan o’u gwaith bob dydd. Ymwelodd y tîm â Thafarn y Ffostrasol Arms a oedd wedi derbyn Hysbysiad Gwella Mangre yn ddiweddar, i sicrhau bod y safle yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Tra oeddent ar y safle, canfu’r swyddogion rhagor o achosion o ddiffyg cydymffurfio. Cafodd y rheolwr wybod am y gwelliannau oedd angen eu gwneud a dywedwyd y byddai Hysbysiad Cau Mangre a Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael eu rhoi pe na fyddai’r dafarn yn bodloni’r gofynion.

Pan ymwelodd y swyddogion â’r safle unwaith eto ar 26 Mai, gwnaethant ganfod bod arwerthiant Fred Davies a’i Gwmni yn cael ei gynnal ar y safle ac nid oedd dim tystiolaeth bod mesurau rhesymol ar waith i leihau’r risg o ledaenu Covid-19 ar y safle. Gyda chymorth Heddlu Dyfed Powys, dychwelodd tîm Diogelu’r Cyhoedd i Dafarn Ffostrasol ddydd Gwener 28 Mai i roi Hysbysiad Cau Mangre a Hysbysiad Cosb Benodedig. Yn sgil hyn, bydd Tafarn Ffostrasol ar gau am 28 diwrnod, neu hyd nes y bydd yn medru dangos bod y gwelliannau angenrheidiol wedi’u gwneud i leihau’r risg o ledaenu’r Coronafeirws ar y safle.

Roedd y safle hwn eisoes wedi derbyn hysbysiad cau am dorri rheoliadau COVID-19 ym mis Hydref 2020.

Mae busnesau nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau yn derbyn cyngor ac arweiniad yn y lle cyntaf ond os byddant yn torri’r rheoliadau o hyd neu os bydd yr achos o dorri’r rheoliadau yn un difrifol, byddant yn derbyn hysbysiadau cau, yn derbyn hysbysiadau cosb benodedig neu’n cael eu herlyn.

Mae rhan fwyaf busnesau lletygarwch Ceredigion yn gwneud gwaith clodwiw iawn wrth gydymffurfio â’r cyfyngiadau er gwaetha’r heriau y maent yn eu hwynebu ac mae Tîm Diogelu’r Cyhoedd wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol drwy gynnig cyngor ac arweiniad iddynt ynglŷn â sut mae cydymffurfio â’r cyfyngiadau. Serch hynny, bydd busnesau sy’n anwybyddu rheoliadau Covid-19 mewn modd anghyfrifol ac sy’n peryglu iechyd eu cwsmeriaid, eu staff a’r gymuned yn ehangach yn wynebu camau gorfodi yn eu herbyn.

Daeth Hysbysiad Cau Mangre Tafarn y Ffostrasol Arms i rym ddydd Gwener 28 Mai 2021 am 15:30. Gallwch weld yr hysbysiad a’r wybodaeth ddiweddaraf am y Coronafeirws ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

03/06/2021