Ar 18 Chwefror, lansiodd y Weinyddiaeth Amddiffyn cerdyn adnabod newydd i gyn-filwyr y bydd pob unigolyn sy'n gadael y gwasanaeth yn ei dderbyn, i nodi eu hamser yn y lluoedd arfog.

Bydd y cardiau yn galluogi cyn-filwyr i wirio eu gwasanaeth yn hawdd i wasanaethau megis y GIG, y Cyngor, ac elusennau, gan eu helpu i gael cefnogaeth a gwasanaethau lle bo'u hangen.

Croesawodd y Cynghorydd Paul Hinge, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Ceredigion, a chyn-filwr ei hun, y newyddion am y cerdyn adnabod newydd. Dywedodd, “Mae hyn yn mynd peth o'r ffordd i gydnabod bod personél gwasanaeth y lluoedd arfog wedi rhoi’n anhunanol i’r gwasanaeth eu gwlad, heb ffafriaeth na rhagfarn. Rwy'n croesawu'r cerdyn adnabod cyn-filwyr hwn ac yn gobeithio y bydd yn rhoi cydnabyddiaeth symbolaidd a nodedig o wasanaeth yr unigolyn nawr eu bod wedi dod yn gyn-filwyr ar ôl cwblhau eu gwasanaeth. Dylai hyn helpu’r gymdeithas i ddangos gwerthfawrogiad ar gyfer yr amser y mae pob person sydd wedi gwasanaethu'r wlad hon, pan fyddant yn ailintegreiddio nôl i'r gymdeithas.”

Caiff y cerdyn adnabod cyn-filwr ei gyflwyno mewn dau gam:
• Cam 1: Bydd y cerdyn adnabod cyn-filwyr yn cael ei ddarparu i bob unigolyn sy'n gadael y gwasanaeth yn unig, fel rhan o'r broses ryddhau o 18 Chwefror ymlaen, ac yn ôl-weithredol, i'r rhai a adawodd ar, neu ar ôl 17 Rhagfyr 2018.
• Cam 2: Anogir ceisiadau gan gymuned ehangach cyn-filwyr ar ôl cytuno ar y broses. Bydd gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yn nes at yr amser, cyn diwedd 2019.

Cysylltwch â rhif llinell gymorth UK Veterans ar 0808 1914 218 i gael rhagor o wybodaeth neu ewch i www.veterans-uk.info

20/02/2019