Mae Ceredigion Actif wedi darparu hyfforddiant llwyddiannus iawn ar gyfer Arweinwyr Ifanc gyda anabledd yn ddiweddar.

Fel adran mewn cyngor sir sydd wedi derbyn y wobr insport arian, mae Ceredigion Actif wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl raglenni'n cael eu cynllunio a'u darparu gan roi ystyriaeth i gynhwysiant. Mae’r rhaglen Llysgennad Ifanc yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion gyda anabledd gymryd rhan fel arweinwyr mewn amgylchedd agored. Mae hyn yn digwydd ochr yn ochr â disgyblion heb anabledd, neu mewn amgylchedd penodol lle mae'r hyfforddiant wedi'i addasu i arfogi arweinwyr â'r sgiliau i ddarparu gweithgareddau i ddisgyblion eraill.

Dywedodd y Swyddog Datblygu Gemma Cutter: “Mae Ceredigion yn cyflwyno rhaglen Arweinyddiaeth Ifanc gwbl gynhwysol lle mae cyfle gwirioneddol i bob person ifanc fod yn rhan o amgylchedd y maen nhw'n fwyaf cyfforddus. Mae'r effaith y mae'r rhaglen hon yn ei chael ar bobl ifanc yn anhygoel. Rydyn ni'n gwybod bod pobl ifanc yn teimlo'n fwy hyderus, yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol yn fwy aml ac yn awr yn mynychu cyfleoedd ychwanegol sydd ar gael iddyn nhw.”

Mae'r dull hwn yn rhoi cyfle i bob disgybl â nam i fod yn rhan o'r rhaglen Llysgennad Ifanc ac i hyfforddi a darparu gweithgareddau mewn amgylchedd sy'n addas ar eu cyfer.

13/11/2019