Mae Hwb Llesiant Gaeaf ar-lein newydd wedi cael ei greu i gefnogi trigolion Ceredigion.

Gyda nosweithiau'n tywyllu’n gynnar, mae'r Hwb Llesiant Gaeaf yn darparu ystod o opsiynau i bobl eu gwneud a'u mwynhau. Mae hyn yn cefnogi lles ein preswylwyr dros fisoedd yr hydref a'r gaeaf.

Mae gwybodaeth, posteri a fideos ar ystod o bynciau, sef:

  • Cefnogaeth
  • Iechyd a lles
  • Pobl ifanc
  • Dysgu

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb ar gyfer Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant, “Mae hwn yn adnodd gwerthfawr i bobl Ceredigion yn ystod y gaeaf. Mae’n gyfnod anodd, yn enwedig gan ein bod yn ceisio cadw ein hunain ac eraill yn ddiogel rhag y Coronafeirws. Dyma hwb i fynd iddo a chymryd ohono yr hyn sy’n apelio, boed yn sialens cerdded, yn ddysgu ar-lein, neu’n sesiwn i bobl ifanc – mae yma rhywbeth i bawb.”

Nid yw gweithgareddau a digwyddiadau nodweddiadol y byddem fel arfer yn eu gweld yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn yn bosibl mwyach oherwydd Coronavirus, ond mae cyfle i gymryd rhan mewn amrywiol gyfleoedd ar-lein, o'ch cartref.

Mae Lles y Gaeaf yn unol â Strategaeth Gaeaf y Cyngor, i amddiffyn iechyd a lles ein rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys gwasanaethau gofal i'r henoed a'r rhai y mae eu cyflyrau meddygol yn eu gwneud mewn perygl arbennig o COVID-19.

Medrir cael mynediad at yr hwb iechyd a lles y gaeaf ar wefan y Cyngor.

02/11/2020