Mae’r Cynllun Kickstart gan Cymunedau am Waith a Mwy wedi helpu dyn ifanc lleol i sicrhau ei swydd lawn amser gyntaf.

Roedd James Sweet, 20 oed o Lanbedr Pont Steffan, yn ddi-waith ac wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol ers mis Mawrth 2021. Roedd effeithiau’r pandemig yn golygu bod James yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith ers y cyfnod clo.

Llwyddodd James i gael cymorth gan Cymunedau am Waith a Mwy i chwilio am swyddi a datblygu ei sgiliau CV cyn sicrhau swydd drwy’r cynllun Kickstart fel Cynorthwyydd Gweithredol gyda chwmni ar-lein.

Mae Misha Homayoun-Fekri yn fentor gyda Chymunedau am Waith a Mwy. Dywedodd: “Cafodd James gymorth yn ystod cyfnod anodd (wrth ddod allan o’r cyfnodau clo) gyda ni yn ei gefnogi drwy anfon swyddi addas ato a chysylltu ag ef yn rheolaidd wrth iddo geisio chwilio am swyddi ei hun. Byddai cael swydd yn ei alluogi i ddysgu sgiliau newydd ac i symud ymlaen i ble mae’n dymuno bod yn ei yrfa yn y pen draw. Aeth James i ychydig o ffeiriau swyddi. Roeddent wedi’u hanelu at y swyddi Kickstart. Yma roedd James yn gallu cwrdd â chyflogwyr yn bersonol a rhoi ei CV iddyn nhw.”

Ychwanegodd James Sweet: “Mae derbyn swydd drwy Kickstart wedi rhoi hwb i mi a’r ysfa i weithio. Mae hyn yn ei dro yn fy nghadw i’n hapus. Mae’n sicr yn werth ymwneud â Chymunedau am Waith a Mwy er mwyn cael cymorth i ennill gwaith. Mae wedi cyfoethogi fy mywyd a’m gyrfa.”

Mae’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, ar ariennir gan Llywodraeth Cymru, yn cefnogi oedolion a phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed drwy roi opsiynau iddynt gael mynediad at ystod o gymorth personol wedi’i deilwra a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i ddiwallu eu hanghenion a’u dyheadau.

Mae swyddi Kickstart yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc gael profiad gwaith gwerthfawr.

28/04/2022