Mae barn trigolion Ceredigion yn cael eu gofyn am adolygiad Datganiad Polisi Trwyddedu ac hefyd Asesiad Effaith Gronnol ar gyfer Tref Aberystwyth gan Gyngor Sir Ceredigion.

Adolygiad Datganiad o Bolisi Trwyddedu 

Un o brif swyddogaethau pob Awdurdod Trwyddedu yw paratoi a chyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu sydd yn nodi’r sail y bydd yr Awdurdod yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau am drwydded. Cynhwysir y dyletswydd i wneud hyn yn Adran 5 Deddf Trwyddedu 2003 sydd hefyd yn darparu bod yr Awdurdod Trwyddedu yn adolygu ei Ddatganiad Polisi yn gyffredinol, ond yn penderfynu ar ei Bolisi o leiaf bob 5 blynedd, gan gynnwys ymgymryd â chyfnod o ymgynghori statudol.

Bydd y Polisi Trwyddedu diwygiedig yn disodli’r polisi presennol ar 07 Ionawr 2021 ac mae polisi newydd yn cael ei adolygu ac ymgynghori arno.

Mae’r Cyngor yn ymgynghori â phawb a fydd yn cael eu heffeithio gan weithiau’r Ddeddf. Bydd gan y Datganiad Polisi yn ei ffurf derfynol oblygiadau pellgyrhaeddol ac mae’n bwysig bod busnesau a thrigolion yn cyfrannu at ei gynnwys. Anogir preswylwyr Ceredigion, cynrychiolwyr adeiladau lleol a deiliaid tystysgrifau clwb, cynrychiolwyr deiliaid trwydded bersonol leol a chynrychiolwyr busnesau yn yr ardal i roi eu barn.

Asesiad Effaith Gronnol Tref Aberystwyth

Fel rhan o'r adolygiad i bolisi trwyddedu'r Awdurdod, rydym yn cynnal Asesiad Effaith Gronnol i sefydlu a ddylid cadw'r Ardal Effaith Gronnol gyfredol yn nhref Aberystwyth, a gynhwysir yn natganiad polisi trwyddedu 2016-2021.

Mae Ardal Effaith Gronnol yn barth dynodedig lle mae tystiolaeth wedi dangos bod nifer, math neu ddwysedd adeiladau trwyddedig yn cael effaith andwyol ar yr amcanion trwyddedu, sef trosedd ac anhrefn, diogelwch y cyhoedd, niwsans cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed.

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio barn a thystiolaeth ynghylch a ddylid cadw'r Ardal Effaith Gronnol bresennol sydd wedi'i chynnwys yn y polisi cyfredol.

Gellir ymateb drwy’r post, Yr Adain Drwyddedu, Polisi a Pherfformiad, Cyngor Sir Ceredigion County Council, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA neu ebostio: publicprotection@ceredigion.gov.uk. Mae’r ymgynhoriadau ar agor tan canol nos, 21 Tachwedd 2020.

21/10/2020