Cynhelir ymgyrch Archwilio Eich Archif Eich Hun o’r enw ‘Hên Siwtces Tolciog yn yr Atig’ yng Ngheredigion o 25 i 30 Tachwedd 2019. Y nod yw cael pobl i werthfawrogi eu harchifau personol. Mae’r teitl yn cyfeirio at y trysorau anghofiedig sydd gan lawer o bobl yn cuddio yn yr atig neu o dan y gwely.

Mae Archwilio Eich Archif yn ymgyrch genedlaethol a gyflwynir gan y Gymdeithas Archifau a Chofnodion. Mae’n anelu at arddangos y gorau o wasanaethau archifau a gwasanaethau archif i ystod eang o ddefnyddwyr presennol a phosib.

Mae’r ymgyrch leol am i bobl y sir ystyried a pharchu’r dogfennau sy’n cuddio mewn corneli tywyll ac edrych ar eu hôl.

Yn ystod yr wythnos, bydd digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal ar y Bandstand yn Aberystwyth. Bydd y Bandstand ar agor o 10yb tan 5yp o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Mae’r digwyddiadau a’r gweithgareddau yn ystod yr wythnos i’w gweld isod ac am ddim i bawb.

  • Arddangosfeydd o bethau hardd a diddorol o gasgliadau Archifdy Ceredigion.
  • Arddangosfa o gasgliadau arbennig wedi'u curadu gan ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth yn astudio Gweinyddu Archifau.
  • Cyfle i gael eich blwch archif eich hun am ddim ar gyfer trysorau dogfennol eich teulu.
  • Bwth lluniau 'Fictoraidd' - cyfle i wisgo dillad Fictoraidd (wedi'u benthyg yn garedig gan Amgueddfa Ceredigion) a byddwch yn barod i gael eich llun wedi cymryd o flaen ein cefnlen wedi'i phaentio'n arbennig.
  • Cyfle i bobl o bob oed wneud bathodyn.
  • Cornel cyffyrddus – cyfle i ymlacio a gwylio sioe sleidiau o ddelweddau o'n casgliadau a rhannu eich atgofion gyda ni.
  • Pori detholiad o lyfrau Archifdy Ceredigion, cardiau cyfarch ac eitemau cadwraeth sydd ar werth am brisiau rhesymol.                                                               

Mae hefyd darlithoedd, gweithdai i oedolion a phlant a noswaith gyda’r canwr baled leol Owen Shiers. Mae pob digwyddiad am ddim ond felly bydd angen i chi archebu lle i'r gweithdai a pherfformiad Owen Shiers ar nos Iau gan fod y niferoedd yn gyfyngedig.

Gallwch archebu lle ar gyfer y gweithdai â pherfformiad Owen Shiers ar y wefan yma: http://bit.ly/ArchifdyCeredigionArchives neu drwy ffonio Archifdy Ceredigion ar 01970 633697 rhwng 10-5 ar ddydd Llun tan ddydd Gwener. Ewch i’r wefan hefyd am restr lawn o weithgareddau a digwyddiadau o ddydd i ddydd yn ystod yr wythnos.

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Archifdy Ceredigion ar 01970 633697.

21/11/2019