Am y tro cyntaf, mae Cered: Menter Iaith Ceredigion, Llyfrgell Aberteifi a Cardi Iaith wedi cydweithio i greu Helfa Straeon ar gyfer plant ardal Aberteifi.

Bu cystadlu brwd dros hanner tymor mis Chwefror gyda dros 60 o blant yn crwydro strydoedd Aberteifi yn chwilio am lyfrau mewn ffenestri siopau’r dref. 

Dywedodd Rheinallt Lewis ar ran Llyfrgell Aberteifi: “Roedd hi’n braf cael cydweithio gyda Cered a Cardi Iaith, gobeithio gallwn weithio gyda’n gilydd yn fuan eto. Diolch i fusnesau Aberteifi am gefnogi ein cystadleuaeth a llongyfarchiadau mawr i’r holl blant a gymerodd ran i wneud yr helfa yn llwyddiant. Gobeithio gwelwn ni chi gyd yn fuan yn llyfrgell Aberteifi.”

Yn cipio’r brif wobr sef Kindle Fire 7 oedd Rhys Morgan. Yn yr ail safle oedd Freya Voller gan dderbyn tocyn llyfr Awen Teifi. Ac yn drydydd oedd Clara Thomas yn derbyn taleb ar gyfer Cardigan Bay Brownies.

Ychwanegodd Siriol Teifi ar ran Cered: Menter Iaith Ceredigion: “Roedd gweld nifer y cystadlu mor galonogol, ac rydym yn gobeithio gallu cynnal mwy o helfa straeon ar draws y sir.”

Diolch i fusnesau’r dref am eu parodrwydd i arddangos y cliwiau yn eu ffenestri.

28/03/2022